Penodi Is-lywydd
Mae’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, wedi penodi Tricia Carter yn Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gyfnod o 4 blynedd o 1 Ebrill ymlaen. Bu Mrs Carter yn aelod o Fwrdd y Llyfrgell ers mis Mawrth 2010, pan benodwyd hi gan Lywodraeth Cymru.
Mae Mrs Carter yn wraig fusnes lwyddiannus ac wedi arbenigo mewn cynllunio strategol a marchnata yn y byd IT, ac mae ganddi ystod eang o brofiad ym maes rheoli addysg uwch. Mae hi wedi gwasanaethu fel Is-lywydd a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru Llambed ac fel Cadeirydd Pwyllgor Safonau Moesegol Awdurdod Heddlu Dyfed Powys. Ar hyn o bryd y mae hi hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Coleg y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd:
"Mae Bwrdd y Llyfrgell yn falch o ddeall am benodiad Mrs Tricia Carter fel Is-lywydd. Gwnaeth gyfraniad gwerthfawr eisoes i waith y Bwrdd, gan ddod â phrofiad eang o'r sectorau cyhoeddus a phreifat i'w gwaith.
"Hithau hefyd yw'r fenyw gyntaf i gael ei phenodi i'r swydd hon yn hanes y Llyfrgell, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio i gefnogi y Llyfrgell a'r Prif Weithredwr, a staff y Llyfrgell, wrth gyflawni ein cynllun strategol newydd”.
Mae Mrs Carter yn Gymrawd o’r ‘Institute of Sales and Marketing’, Cymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru Drindod Dewi Sant ac Aelod o’r Sefydliad Materion Cymreig.
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk