Symud i'r prif gynnwys

WWF Cymru: Eleni bydd Cymru’n disgleirio ar gyfer Awr Ddaear

Disgwylir i gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru ddiffodd eu goleuadau am awr o 8:30pm ar nos Sadwrn (29 Mawrth) fel rhan o’r dathliad mwyaf yn y byd ar gyfer y blaned.


O gwmpas y byd disgwylir i filiynau gymryd rhan yn y digwyddiad wrth i strwythurau ac adeiladau pwysig gan gynnwys yr Empire State Building, Porth Brandenburg a’r Kremlin dywyllu.

Eleni mae’n cyd-daro gyda ‘Sgwrs Genedlaethol’ Llywodraeth Cymru ar ddyfodol y wlad wrth iddi baratoi i gyflwyno Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae WWF Cymru’n gobeithio y bydd y gyfraith yn helpu i ddiogelu’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn mynd i’r afael â heriau mawr fel y newid yn yr hinsawdd a bygythiadau i goedwigoedd a moroedd.

Hefyd mae WWF Cymru wedi lansio gwefan ‘Welsh Wish’ i bobl gael dewis dymuniad ar gyfer dyfodol cynaliadwy, ei rannu gyda chyfeillion, a bod yn un o’r ‘sêr’ ar lein. Mae’r fenter wedi ennyn cefnogaeth aelodau o garfan rygbi Cymru a’r actor Michael Sheen. Ar y noson, mae’r trefnwyr yn annog cefnogwyr Awr Ddaear yng Nghymru i rannu eu lluniau a’u fideos trwy Facebook a Twitter, gan ddefnyddio’r hashnodau #awrddaear a #welshwish

Mewn arolwg o oedolion yng Nghymru a gynhaliwyd gan gwmni Beaufort Research ar gyfer Awr Ddaear WWF, cytunodd 68% o bobl y ‘dylai Llywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am wneud newidiadau i bolisïau a fydd yn gwarchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’; dim ond 11% a anghytunodd.

Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:
“Mae Awr Ddaear yn disgleirio yng Nghymru – mae’n ffordd wych i’n hatgoffa bod angen i ni warchod ein planed ryfeddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni’n amcangyfrif bod rhyw hanner miliwn o oedolion yng Nghymru wedi cymryd rhan y llynedd ac mae’r arolwg heddiw’n dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn rhannu ein gobaith y bydd ein gwlad yn chwarae ei rhan mewn dyfodol disgleiriach.

“Mae Awr Ddaear eleni’n un arbennig i Gymru wrth i ni gynnal y Sgwrs Genedlaethol ar ddyfodol ein cenedl a pharatoi am gyfraith newydd Cenedlaethau’r Dyfodol – y gyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig. Pe bai pawb yn y byd yn byw fel yr ydyn ni yng Nghymru, byddai arnon ni angen mwy na dwy blaned i’n cynnal. Ond yn awr mae gennyn ni gyfle gwych i newid a dod yn ‘genedl un blaned’ gynaliadwy.

“Gobeithio y bydd pobl ledled Cymru’n ymuno â’r mudiad byd-eang ac yn diffodd eu goleuadau ar gyfer Awr Ddaear nos Sadwrn. Mae gan Gymru stori wych i’w rhannu â’r byd eleni – Awr Ddaear 2014 yw ein cyfle ni i ddisgleirio.”

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, sy’n noddi’r digwyddiad:
“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi Awr Ddaear am y bumed flwyddyn yn olynol. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn ffordd bwysig o’n hatgoffa y gallwn ni gyd wneud pethau eithaf bach i helpu i ofalu’n well am adnoddau naturiol y byd ac i leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Efallai bod diffodd goleuadau diangen a thynnu plygiau offer nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ymddangos yn bethau dibwys ond gyda’i gilydd gall gweithredoedd fel hyn wneud gwahaniaeth mawr.”

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert, sy’n gyfrifol am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol:
“Nod ein Bil unigryw yw bod ein cenhedlaeth ni’n cymryd cyfrifoldeb am wella lles Cymru a sicrhau Cymru gynaliadwy am ddegawdau i ddod. Mae Awr Ddaear yn symbol gwych o'n cydgyfrifoldeb am y byd rydym yn byw ynddo ac o’r ffordd y gallwn ni gyd weithredu i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Yn ogystal â bod yn symbol o gefnogaeth i’r blaned, o gwmpas y byd mae Awr Ddaear yn ysgogi gweithredu ar lawr gwlad – o greu coedwig Awr Ddaear yn Wganda i’r ymgyrch yn Awstralia i warchod y Bariff Mawr. Hefyd mae WWF-Philippines yn helpu cymunedau pysgota i feithrin gwydnwch yn wyneb y newid yn yr hinsawdd, ar ôl y difrod mawr a wnaethpwyd gan Deiffŵn Haiyan.

Yn 2013, bu Awr Ddaear yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru. Tywyllwyd strwythurau ac adeiladau pwysig gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru a’r Senedd a rhoddodd mwy na 200 o ysgolion yng Nghymru, hanner cynghorau Cymru ac Aelodau Cynulliad o bob plaid eu cefnogaeth.

Mae uchafbwyntiau eraill Awr Ddaear yng Nghymru eleni’n cynnwys:

  • Creu delwedd fawr o gannwyll LED #welshwish y tu allan i’r Senedd, Bae Caerdydd, wrth i’r goleuadau gael eu diffodd
  • Mae’r strwythurau ac adeiladau eiconig eraill fydd yn tywyllu’n cynnwys Castell Caernarfon, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth) a’r Bont Cludo yng Nghasnewydd
  • Bydd Llywodraeth Cymru’n diffodd y goleuadau yn llawer o’i swyddfeydd ledled y wlad
  • ‘Coeden addewidion’ i helpu’r amgylchedd ac arddangosiadau ailgylchu creadigol yn Techniquest
  • Cefnogaeth gan ysgolion ledled y wlad – yn Ysgol Iau Llangewydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae disgyblion wedi ysgrifennu dymuniadau ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy ar sêr
  • Mae pobl o bob cwr o Gymru’n bwriadu cynnal gweithgareddau hwyliog yn eu cartrefi gan gynnwys swper yng ngolau canhwyllau, chwarae gemau bwrdd a syllu ar y sêr
  • Mae’r comedïwr o Gymru, Dan Mitchell, wedi creu fideo o ’60 o bethau i beidio â’u gwneud yn y tywyllwch’
  • Cerddi gan Caryl Parry Jones ac Eurig Salisbury
  • Cefnogaeth gan fusnesau yng Nghymru gan gynnwys Ikea, Gwesty Dewi Sant a Gwesty Hilton Casnewydd

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae ffotograffau a chyfweliadau ar gael o wneud cais
  2. Cynhaliwyd yr arolwg gan gwmni Beaufort Research Ltd. Gwnaethpwyd y rhan fwyaf o’r gwaith maes ar gyfer yr arolwg ym mis Tachwedd 2013 rhwng 15ed a 26ain Tachwedd 2013, a’r gweddill yr wythnos wedyn. Cafodd 1,022 o gyfweliadau eu cyflawni a’u dadansoddi.
  3. Mae’r amcangyfrif wedi’i seilio ar ffigwr o 10.1 miliwn o oedolion yn y Deyrnas Unedig a gymerodd ran yn Awr Ddaear yn 2013 – ffynhonnell: NFP Synergy 2013 (sampl cenedlaethol gynrychioladol o 1,010 o oedolion 16 oed a hŷn yn y Deyrnas Unedig).
  4. I gael mwy o wybodaeth am Awr Ddaear ac i weld map o ddigwyddiadau a chefnogwyr yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ewch i dudalen Earth Hour
  5. Mae WWF Cymru yn rhannu uchafbwyntiau Awr Ddaear yng Nghymru ar ei blog Storify
  6. Mae fideo Dan Mitchell ’60 o bethau i beidio â’u gwneud yn y tywyllwch’
  7. WWF yw un o'r sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf yn y byd, ac mae ganddo fwy na phum miliwn o gefnogwyr a rhwydwaith byd-eang sy'n gweithredu mewn mwy na chan gwlad. Drwy ymgysylltu â'r cyhoedd, busnesau a llywodraethau, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu byd natur, gan greu atebion i’r problemau amgylcheddol mwyaf difrifol mae ein planed yn eu hwynebu, er mwyn i bobl a natur ffynnu. I gael gwybod mwy am ein gwaith, yn y gorffennol ac yn y presennol, ewch i wwf.org.uk.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf, 01970 632534 neu post@llgc.org.uk