Symud i'r prif gynnwys

Llyfrgell Genedlaethol Cymru i dderbyn £300,000 ar gyfer gwasanaethau arlein

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n croesawu’r newyddion ei bod am dderbyn £321,000 o gyllid ychwanegol fel rhan o’r dyfarniad grantiau diweddaraf ar gyfer llyfrgelloedd, archifdai ac amgueddfeydd Cymru.

Mewn cyhoeddiad a wnaed gan John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, heddiw (Mercher 9 Ebrill), y mae’r swm sylweddol hwn yn rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i hwyluso mynediad at ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon ac annog gwell cyfranogiad.

Meddai Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:

“Mae’r buddsoddiad hwn yn cael ei groesawu’n fawr gennym a bydd yn galluogi’r Llyfrgell i ddarparu mynediad ehangach i gynnwys safonol o Gymru ac o fannau eraill o’r byd, a chaniatáu i ni gyfrannu’n sylweddol at y dasg o adeiladu Cymru gynhyrchiol, fedrus, lythrennog, â chysylltiad â’r byd tu allan.”

Daw’r datganiad wrth i’r Llyfrgell lansio’i Chynllun Strategol newydd Gwybodaeth i Bawb lle y mae’n ymrwymo i roi’r budd cyhoeddus mwyaf o’i chasgliadau a’i gwasanaethau.  Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan y Llyfrgell meddid yn elfennau perthnasol a phwysig ym mywydau pobl ac y maent yn chwarae rhan annatod ym mywyd Cymru.

Aeth Aled Gruffydd Jones ymlaen i ddweud:

“Y brif her a wynebwn yn ystod y tair blynedd nesaf fydd dod â chynifer o bobl â phosibl i ymwneud â’n casgliadau, a gwneud hynny mewn llawer dull a modd newydd ar gyfer dibenion amrywiol. Bydd derbyn cyllid ychwanegol fel hyn yn caniatáu’r ehangu parhaus sydd ei angen ar ein prif wasanaethau gan alluogi defnyddwyr y dyfodol ble bynnag y maent i fwynhau mynediad rhagorach at wybodaeth sydd wedi’i greu a’i ddarparu gan gyllid cyhoeddus. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf, 01970 632534 neu post@llgc.org.uk