Symud i'r prif gynnwys

Llyfrau nodiadau Dylan Thomas yn dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf

Mae llyfrau nodiadau a llawysgrifau prin oedd a berthynai  i Dylan Thomas bellach wedi cyrraedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o'r Unol Daleithiau.

Wedi eu hebrwng yn bersonol gan aelod o staff o'r Llyfrgell Genedlaethol bob cam yn ystod eu taith epig ar draws yr Iwerydd, mae’r llyfrau nodiadau a llawysgrifau  erbyn hyn yn cael eu cadw’n  ddiogel yn y Llyfrgell mewn paratoad  ar gyfer yr arddangosfa i gofio geni Dylan Thomas.

Mae'r benthyciad yn cynnwys pedwar llyfr nodiadau barddoniaeth wedi’u hysgrifennu rhwng 1930 a 1934, a'r 'Red Prose Notebook’ sydd hefyd yn dyddio o'r cyfnod hwn . Mae rhestr o eiriau sy'n odli a hunan-bortread Dylan wedi ei wneud ar gefn llythyr at Pamela Hansford Johnson, a chroesair ar gefn copi carbon o 'Fern Hill' a wnaed gan Dylan, yn taflu goleuni ar ei broses ysgrifennu a hefyd ei ochr chwareus .

I gyd-fynd â’r eitemau hyn mae yna hefyd gyfres o ffotograffau du a gwyn o Dylan Thomas, sydd heb gael eu harddangos na’u hatgynhyrchu’n  eang . Mae rhai yn dyddio o ddiwedd y 1930au ac yntau newydd briodi , tra bod yr ail set a gymerwyd yn Efrog Newydd yn dyddio o’r  50au cynnar.

Dywedodd  Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aled Gruffydd Jones :

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu croesawu’r eitemau hyn yn ôl i Gymru ar gyfer dathliadau’r canmlwyddiant . Mae'r Llyfrgell yn falch o fod yn ystorfa a chanolfan ymchwil o bwys ar gyfer deunydd Dylan Thomas, ac mae’r  benthyciad hwn, sy’n ddarn olaf yn y  jig-so,  yn rhoi cipolwg i ni ar fywyd a phrosesau ysgrifennu cynnar Dylan. Mae'r Llyfrgell yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Buffalo , Prifysgol talaith Efrog Newydd ar gyfer benthyca’r eitemau hyn fel rhan o’n dathliadau canmlwyddiant".

" Mae'n rhoi enw da yn rhyngwladol ", meddai Michael Basinski , curadur Casgliad Barddoniaeth ym Mhrifysgol Buffalo ". Mae'r casgliad hwn yn tynnu ysgolheigion a chefnogwyr o bob cwr o'r byd sy'n gyrru cannoedd o filltiroedd i sefyll ym mhresenoldeb y deunydd hwn”.

Erbyn hyn, ni fydd yn rhaid i gefnogwyr y bardd deithio mor bell i weld yr eitemau eiconig hyn gan eu bod yn cael eu rhannu rhwng dwy arddangosfa, y naill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , Aberystwyth ( 28 Mehefin ) a’r llall yng Nghanolfan Dylan Thomas , Abertawe ( 31 Mai ).

Dywedodd y Cynghorydd Nick Bradley , Aelod Cabinet dros Adfywio Cyngor Abertawe:
" Mae'n newyddion gwych ein bod yn gallu gweithio mewn partneriaeth agos  â Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddod ag arteffactau o werth hanesyddol a diwylliannol o'r fath yn ôl i Gymru ac, wrth gwrs , i Abertawe , man geni Dylan " .
 

Gwybodaeth am yr  Arddangosfa :
DYLAN
(28 Mehefin - 20 Rhagfyr 2014)

Fel rhan o DylanThomas100, dathliadau geni Dylan Thomas, bydd y Llyfrgell yn creu arddangosfa aml-gyfryngol ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau wedi’u  comisiynu.

Bydd y Llyfrgell yn creu arddangosfa a fydd yn cynnig cyfle unigryw i ddathlu bywyd a gwaith y llenor eiconig Cymreig, Dylan Thomas.  Bydd modd i ymwelwyr gymryd cipolwg i fyd Thomas; byd llawn barddoniaeth, storïau, dramâu a synfyfyrion, gan gael eu tywys o gwmpas y byd hwn gan Dylan ei hun.  Yn rhan o’r arddangosfa aml-gyfryngol hon, bydd llawysgrifau nad ydynt wedi’u harddangos o’r blaen o gasgliadau’r Llyfrgell ac ar fenthyg o Lyfrgell Prifysgol Buffalo, Efrog Newydd, yn ogystal â phrofiadau rhyngweithiol i bob oedran.

Wedi’i lleoli yn Aberystwyth, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwasanaethu fel cof casgliadol hirdymor Cymru, ac mae ei chasgliadau yn helaeth ac yn amrywiol gyda mynediad rhad ac am ddim iddynt.  Gyda miloedd o ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas yn y casgliad, mae’r Llyfrgell yn lleoliad allweddol i ymchwilwyr  Dylan Thomas, yn ogystal â chynnig mynedfa i bobl ddysgu am ei fywyd a’i waith.

Trwy gydol y flwyddyn, bydd partneriaethau gyda’r ddawnswraig Eddie Ladd; cwmni theatr Arad Goch; y beirdd Damian Walford Davies a Rhian Edwards a’r artistiaid gweledol Peter Finnemore a Russell Roberts yn cynnig persbectif ffres ar fywyd, rhyddiaith a barddoniaeth Dylan.  Bydd Dylan Thomas hefyd yn ymddangos ar stondin arddangos y Llyfrgell eleni yn Eisteddfod Sir Gâr. 

Bydd symposiwm cyhoeddus (5-6 Rhagfyr 2014) yn ddiweddglo addas i ddathliadau’r canmlwyddiant.  Bydd yn cynnwys dangosiad o ffilm 1972 Andrew Sinclair o ‘Under Milk Wood’ gyda sesiwn holi  ac ateb rhwng y Cyfarwyddwr a Damian Walford Davies.

Gwybodaeth Bellach

Elin- Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk