Lens 2014: Gŵyl Dogfennu Cymru â’r Camera
Reportage yw thema gafaelgar degfed Gŵyl Ffotograffiaeth ‘Lens’, a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 28 a 29 Tachwedd.
O’i dyddiau cynnar fel digwyddiad i hyrwyddo casgliadau delweddau gweledol y Llyfrgell, mae’r Ŵyl wedi tyfu a datblygu dros y ddegawd a fu i fod yn fforwm drafod bwysig i ffotograffwyr proffesiynnol a lleug, ac yn gyfle i fwynhau cyflwyniadau gan rai o gewri’r lens.
Yn ôl William Troughton, Llyfrgellydd Delweddau Gweledol y Llyfrgell, bydd y ddegfed Ŵyl yn un arbennig iawn:
“Rydym yn falch o fedru cyhoeddi y bydd Homer Sykes, sydd â’i waith wedi ymddangos yn The Telegraph, The Sunday Times, The Observer yn ogystal â chylchgronau’r Sunday Express, gyda ni’n rhannu ei brofiadau helaeth fel ffotograffydd portreadau a chylchgronau proffesiynol. Bydd yn fraint mawr cael ei bresenoldeb ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ei gyflwyniad”.
Ymysg y cyfranwyr eraill i’r Ŵyl fydd James O Jenkins, Amanda Jackson, Neil Turner, Tina Carr ac Annemarie Schöne. Cyflwynir newyddion o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gwybodaeth am gynllun MabLab y Llyfrgell.
At hyn, bydd diweddariad gan drefnwyr Gŵyl FfotoAber.
Bydd yr Ŵyl yn cychwyn ar nos Wener 28 Tachwedd ac yn parhau drwy’r dydd Sadwrn 29 Tachwedd.
Mynediad trwy docyn sydd ar gael o Siop LlGC
01970 632 548
www.llyfrgell.cymru/drwm
Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Lens 2014 cysylltwch â:
William Troughton, Llyfrgellydd Delweddau Gweledol
01970 632 827
william.troughton@llgc.org.uk
neu
Rhiain Williams, Swyddog Marchnata
01970 632 534
rhiain.williams@llgc.org.uk