Symud i'r prif gynnwys

Jane Hutt AC yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol

Roedd Dr Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn falch iawn o allu croesawu Jane Hutt AC,  Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru, i’r Llyfrgell heddiw (dydd Llun, 15 Rhagfyr).


Yn ystod ei hymweliad, fe ddiweddarwyd y Gweinidog ar gynnydd Prosiect Digido ar gyfer Busnes y Llyfrgell a adwaenir hefyd fel Prosiect DigiDo. Pwrpas y prosiect hwn, sy’n derbyn cefnogaeth gwerth £2.2 gan yr Undeb Ewropeaidd yw er mwyn cefnogi arloesedd ymhlith busnesau  Cymru a’u galluogi i  gystadlu’n yn lleol ac yn fyd-eang.  Mae'n  cynnig cyfle i fusnesau fanteisio ac ail-ddefnyddio ystorfa enfawr o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o lyfrgelloedd mawr y byd.


Dywedodd Dr Aled Gruffydd Jones:


‘Mae arian Ewropeaidd wedi galluogi’r Llyfrgell i gynnig y defnydd o’i chasgliadau eang i gyhoeddwyr, cwmniau teledu ac eraill yn y diwydiant creadigol yng Nghymru, a bydd yn parhau’n  ffynhonnell  gyllidol bwysig ar gyfer y dyfodol’.


Roedd y Gweinidog hefyd yn ddiolchgar i’r Llyfrgell Genedlaethol am ei chyfraniad i’r arddangosfa Trethi yng Nghymru sydd newydd ddod i ben. Llwyfanwyd yr arddangosfa yn y Llyfrgell gyda chydweithrediad y partneriaid eraill, sef Archifdy Morgannwg yng Nghaerdydd a Phrifysgol  Bangor a oedd hefyd wedi darparu deunyddiau ar gyfer yr arddangosfa.


Dydwedodd y Gweinidog; ‘Mae 700 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gymru basio eu deddfau trethi diwethaf, sy’n tanlinellu arwyddocad y Papur Gwyn ar reolaeth casglu trethi datganoledig. Dyma’r gyntaf o dair ymgynghoriad, a bydd eraill ar y cynigion ar gyfer trethi newyddd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn. Mae hwn yn bwnc hynod bwysig i Gymru, ac rwy’n gobeithio y bydd bob un sydd â barn ynghylch y mater yn cyfranu’


‘Mae’r arddangosfa Trethi yng Nghymru felly’n hynod amserol ac wedi darparu gwybodaeth ddiddorol am hanes trethi yng Nghymru wrth i ni baratoi ar gfyer pwerau trethi datganoledig. Hoffwn ddiolch i’r Llyfrgell Genedlaethol a’r partneriaethau eraill sydd wedi cyfrannu at yr arddangosfa’ meddai.


-    DIWEDD –

Am fanylion pellach cysylltwch â rhiain.williams@llgc.org.uk  01970 632534
Ffotograffau ar gael o post@llgc.org.uk