Gweithredu Diwydiannol
10 Medi 2014
Bydd Undebau Llafur yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithredu’n ddiwydiannol ar ddydd Mercher 10 Medi a bydd yr adeilad ar gau i’r cyhoedd ar y diwrnod.
Meddai Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:
“Mae’r Llyfrgell eisoes wedi cynnig 3% o ddyfarniad cyflog i’r holl staff, ynghyd â swm ariannol ychwanegol i weithwyr ar gyflogau isel, wedi’i ôl ddyddio i Ebrill 2013, a fyddai’n golygu y byddai’r Llyfrgell yn cyrraedd targed Cyflog Byw Llywodraeth Cymru erbyn Ebrill 2015, yn unol â disgwyliadau’r Llywodraeth. Felly, mater o siom yw bod yr Undebau wedi gwrthod y cynnig hwn. Serch hynny, bydd y Llyfrgell yn gweithredu ei bwriadau o ran Cyflog Byw erbyn Ebrill 2015.”
Meddai Aled Gruffydd Jones ymhellach:
“Mae ymateb yr Undebau’n gynamserol. Fel rhan o’r cynnig y mae’r Llyfrgell hefyd wedi ymrwymo i ystyried gwneud rhan o’r dyfarniad cyflog o 3% yn gyfunol. Mae’r Llyfrgell yn ymwybodol iawn o’r sefyllfa gyda chyflogau a dyna pam fod gallu gweithredu dyfarniad cyflog cyfunol yn flaenoriaeth uchel inni. Dyna’n bwriad, ond rhaid sicrhau yn gyntaf fod yr adnoddau gennym i allu gwneud hynny, a byddwn yn nes at wybod hynny ar 30 Medi pan gyhoeddir cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru”.
Mae’r gweithredu diwydiannol hwn yn digwydd ar adeg anodd iawn yn ariannol i’r Llyfrgell. Grant Cymorth Llywodraeth Cymru sy’n talu am gyflogau staff ac y mae’r grant hwn wedi gostwng yn sylweddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mater o bryder i ni yw’r posibilrwydd real iawn y gwelwn ni doriadau pellach yn ein Grant Cymorth yn 2015-2016 a hynny ar ben y 2% sydd wedi’i dorri’n barod eleni.
Mae’r Llyfrgell yn ymddiheuro i aelodau’r cyhoedd am unrhyw anghyfleustra a ddaw i’w rhan o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol hwn, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys yr anghydfod hwn er lles ein defnyddwyr.
Am ragor o wybodaeth cysyllter â’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Aled Gruffydd Jones, ar 01970 632805/agj@llgc.org.uk