Symud i'r prif gynnwys

Ffilmiau archif yn ysbrydoli creadigrwydd

Yn ystod mis Chwefror, bydd Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn cynnal project gyda thrigolion Blaenau Ffestiniog – project fydd yn cyfuno elfennau o ffilm, barddoniaeth a cherddoriaeth mewn dull newydd a ffres.

Canolbwynt y project fydd casgliad o ffilmiau archif o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sydd wedi’i leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae’r ffilmiau'n cynnwys siotiau o gêm bêl-droed rhwng Tanygrisiau a’r Urdd yn y 1930au, ac agoriad Ysbyty Goffa Blaenau Ffestiniog yn 1927, a gaeodd llynedd er gwaetha gwrthwynebiad chwyrn gan y gymdeithas leol.  Y gobaith ydy bydd y ffilmiau hyn yn sbarduno syniadau am farddoniaeth, ffilmiau a cherddoriaeth newydd.

Mae’r trefnwyr yn apelio i’r gymdeithas leol i fod yn rhan o’r project, ac yn gofyn iddynt fynychu sesiwn wybodaeth yn Ysgol y Moelwyn nos Fercher, 19 Chwefror am 6pm, i wybod mwy.

Penllanw’r project fydd sioe fyw yn Cell B, Blaenau Ffestiniog ar nos Fercher, 26 Chwefror. Bydd y noson yn cyfuno elfennau o ffilmiau archif, ffilmiau newydd, barddoniaeth a cherddoriaeth byw.

Yn cydlynu’r project ar ran trigolion Blaenau Ffestiniog, mae’r cerddor lleol, Gai Toms. Dywedodd Gai:

"Dwi wrth fy modd yn cyfuno elfennau gweledol efo barddoniaeth a cherddoriaeth, edrych ymlaen yn arw i greu rywbeth hollol newydd efo’r gymuned ar y cyd â’n Llyfrgell Genedlaethol.

Yn ogystal â Gai, bydd yr awdur a’r bardd Siân Northey a’r gwneuthurwr ffilm Owain Llŷr yn fentoriaid ac yn arwain y creu.  

Dywedodd Anwen Pari Jones, Swyddog Datblygu a Rheoli Mynediad, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru:

"Mae’r project yn un cyffrous iawn ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan ohono. Maen gyfle arbennig i ni rannu ffilmiau o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain efo pobol yr ardal, ond hefyd yn gyfle i weld sut mae’r ffilmiau yn gallu ysbrydoli creadigrwydd ar ffurf cerddoriaeth, barddoniaeth a ffilm newydd.

Mae’r project hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu ym Mlaenau Ffestiniog gan y Llyfrgell Genedlaethol, fel rhan o’u cynllun estyn allan blynyddol. Cymerodd blant o ysgolion lleol ran mewn gweithdai addysg, wedi’u trefnu gan uned addysg y Llyfrgell, a bu dangosiad ffilm yn Cell B ym mis Tachwedd.

Ar 22 Chwefror, bydd staff o’r Llyfrgell yn ymweld â Neuadd Sefydliad y Merched, yn Wynne Avenue. Bydd staff wrth law i ateb cwestiynau ar adnoddau hanes teulu ac ymholiadau cyffredinol sydd gan y cyhoedd ar gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd hefyd staff o broject Casgliad y Werin yno i hyrwyddo pwysigrwydd cadw a rhannu deunyddiau sy’n gysylltiedig â threftadaeth a hanes lleol. Bydd ymwelwyr yn cael eu croesawu i rannu eu straeon ar y diwrnod a bydd lluniau Gwilym Livingstone Evans o Flaenau Ffestiniog ar wefan Casgliad y Werin Cymru, gyda’r gobaith o sbarduno atgofion.

Mae tocynnau ar gael ar gyfer sioe Blaenau: Heddiw, Ddoe a Fory yn rhad ac am ddim o Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog - 01766 831802 neu henbost.blaenau@virgin.net. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Anwen Pari Jones – 01970 632 535 neu anwen.jones@llgc.org.uk