'Dylan' Yr Arddangosfa
Darlun yr awdur ei hun o fap Llareggub, cerdd a sgwenwyd ganddo yn ystod ei arddegau a llythyrau personol amrywiol, dim ond rhai o’r 150 eitem fydd i’w gweld mewn arddangosfa newydd ar fywyd a gwaith Dylan Thomas yn Aberystwyth o ddydd Sadwrn 28 Mehefin ymlaen.
‘Dylan’ yw teitl arddangosfa aml-gyfryngol newydd sbon yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fydd yn bwrw golwg atgofus ar fyd Dylan Thomas – byd llawn barddoniaeth, straeon, dramâu a doethinebau. Mae’n cynnwys ffotograffau, archifau, llawysgrifau ac eitemau o ffilm a chelf gwreiddiol o gasgliadau helaeth y Llyfrgell ar fywyd a gwaith yr awdur. Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau yn yr arddangosfa yn gweld golau dydd am y tro cyntaf erioed. Hefyd i’w gweld am y tro cyntaf fydd deunydd a fenthycir o’r Unol Daleithiau.
“Mae hon yn arddangosfa hynod fywiog sy’n werth ei gweld ac mi i fydd yn llenwi‘n prif ofodau arddangos dros gyfnod o chwe mis” yn Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell. “Mae’r nifer a’r ystod o weithiau sydd i’w gweld yn rhyfeddol ond yr hyn sydd yn gwneud yr arddangosfa’n un arbennig iawn yw’r eitemau gwreiddiol a phrin fydd i’w gweld, fel y llythyrau sydd wedi bod dan glo tan hyn.
At hyn, mae’r defnydd o eiriau Dylan ei hun i’n tywys drwy’r arddangosfa yn gwneud y profiad yn un personol iawn. Rydym, hefyd, wedi creu sawl eitem dehongliadol gwreiddiol a thrawiadol iawn, yn cynnwys teclyn hwyliog sydd yn tynnu Cerddi Dylan yn Nhafarn y Beirdd a model o dref Llareggub. Mae’n sicr yn ddathliad gwefreiddiol o fywyd a gwaith ffigwr llenyddol eiconig.
Mi fydd hefyd yn gwneud i bawb sylweddoli mai Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r lle i ddod, o bell ac agos, i astudio gwaith Dylan Thomas, boed hynny yn ystod yr arddangosfa neu wedi hynny” meddai.
Drwy gwmpasu dehongliadau artistig newydd, gan gynnwys perfformiadau theatr a dawns a gweithdai llenyddol, mae ‘Dylan’ yn fwy nag arddangosfa fodd bynnag. Crewyd rhaglen o weithgareddau sydd yn cynnwys gwaith wedi ei gomisiynnu o’r newydd gan yr artistiaid gweledol Peter Finnemore a Russell Roberts a chan y ddawnswraig Eddie Ladd. Bydd cyfraniadau newydd hefyd gan gwmni theatr Arad Goch a’r beirdd Damian Walford Davies a Rhian Edwards.
Derbyniwyd cefnogaeth hael gan y Scottish Power Foundation i hwyluso rhaglen addysg, fydd yn ehangu apêl yr arddangosfa a’i wneud yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd iau.
“Mae hwn yn brosiect penigamp ac mae’r Sefydliad yn hynod falch i gefnogi arddangosfa mor flaengar a hon sydd yn dathlu geni Dylan Thomas” meddai Ann Loughrey, Ymddiriedolwr a Swyddog Gweithredol Scottish Power Foundation.
“Roedd y prosiect yn ticio pob un o’n blychau gan iddo nid yn unig gynnig cyfle i bawb weld deunydd sydd heb ei arddangos o’r blaen ond iddo hefyd, gynorthwyo cenhedlaeth newydd o blant i ddysgu am fywyd a gwaith ffigwr llenyddol eiconig drwy gyfrwng rhaglenni addysgol rhyngweithiol”
Cynhelir yr arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, rhwng 28 Mehefin a 20 Rhagfyr, gydag agoriad swyddogol gan Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas, am 2.30pm ar 28 Mehefin. Mae’n rhan o Dylan Thomas 100, prosiect a noddir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddathlu canmlwyddiant geni’r bardd. Bydd Sied Sgwennu Deithiol Dylan Thomas yn ymweld â’r Llyfrgell yn ystod wythnos olaf mis Awst, a chynhelir Symposiwm Cyhoeddus gan y Llyfrgell ym mis Rhagfyr.
Nodiadau i Olygyddion
Arddangosfa
‘Dylan’ mae’r brif arddangosfa yn cynnwys tua 150 eitem, gyda thros 50 o weithiau gweledol a 50 llawysgrif o gasgliadau’r Llyfrgell yn ymwneud â’r prif gyfnodau yn ei fywyd. Arddangosir 90% o’r deunydd hyn am y tro cyntaf erioed. ‘Oblique epern of paper’s cellar-fear’ yw teitl cerdd aneglur, heb ei gofnodi, o waith yr awdur a sgwenwyd, o bosib, rhwng 1928 a 1932.
Dod â Dylan Adref yw teitl arddangosfa arbennig o lawysgrifau a ffotograffau ar fenthyg o Gasgliad Barddoniaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol, Prifysgol Buffalo, Efrog Newydd Mae’n fenthyciad ar y cyd â Chanolfan Dylan Thomas, Abertawe.
Mae Celf Dylan yn adran o’r arddangosfa sydd yn cynnwys gweithiau celf amrywiol a grewyd gan Dylan Thomas ei hun, yn ogystal a deunydd a grewyd amdano.
Prosiectau
Ach y fi, Ach y fi Dehongliad beiddgar yr artistiaid Peter Finnemore a Russell Roberts o fywyd tywyll a drygionus Dylan Thomas (i’w weld rhwng 28 Mehefin a 20 Rhagfyr)
Caitlin Perfformiad dawns wreiddiol gan y ddawnswraig Eddie Ladd yn seiliedig ar Caitlin Thomas a’i pherthynas a’r gŵr, Dylan Thomas.
Innocent As Strawberries Gwaith theatr newydd gan gwmni theatr Arad Goch yn seiliedig ar straeon byrion Dylan Thomas ar thema ieuenctid a llencyndod. Cynhelir 10 sesiwn ganddynt yn y prif gofod arddangos.
Darlunio Dylan Cynhaliwyd gweithdy gan y beirdd Damian Walford Davies a Rhian Edwards yn Amgueddfa Cymru Caerdydd gyda disgyblion Ysgol Trelai Caerdydd a chynhyrchwyd posteri ‘llun a gair’ ganddynt i’w harddangos ym mhrif ofod arddangosfa’r Llyfrgell. Bydd y beirdd hyn hefyd yn cynnal prosiect Teenage Thomas i fyfyrwyr 6ed dosbarth gan ddefnyddio’r Llawysgrifau a fenthycwyd o Brifysgol Buffalo.
Symposiwm Cyhoeddus. I’w gynnal yn y Llyfrgell ar 5-6 Rhagfyr. Bydd yn cynnwys dangosiad o’r ffilm ‘Under Milk Wood’ (1972) ym mhresenoldeb y cyfarwyddwr Andrew Sinclair ynghyd â sesiynnau gan arbenigwyr amrywiol.
Sied Sgwennu Teithiol Dylan Thomas (The Dylan Thomas Pop Up Writing Shed). Fersiwn bychan o o’r sied sgwennu enwog yn Nhalarcharn. Ynddo, gall ymwelwyr gyfrannu at eiriadur o eriau newydd.
Dylan Thomas 100 Mae’r Llyfrgell yn cydnabod y gefnogaeth ariannol a gafwyd o’r proiect hwn ar gyfer cynnal y gweithgareddau uchod.
Scottish Power Foundation Mae Scottish Power Foundation yn cynnig cefnogaeth ariannol i elusennau cofrestredig a sefydliadau di-elw ar gyfer hyrwyddo gweithgaredd addysgol a’r celfyddydau, treftadaeth, diwylliant a datblygiad cymunedol, ymysg pethau eraill.
@trydarDTtweets
Gwybodaeth Bellach
post@llgc.org.uk 01970 632471