Dâm Rosemary'n ymweld â'r 4 Llyfr
Bydd Dâm Rosemary Butler, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol heddiw, ar ddiwrnod olaf arddangosfa fawr y Pedwar Llyfr.
Yn fuan ar ôl ei hymweliad bydd y Llyfrgell yn gorfod dychwelyd Llyfr Coch Hergest i Loegr, ac yn ôl i storfeydd Llyfrgell Bodley, Rhydychen. Roedd Llywydd y Cynulliad yn awyddus i weld yr arddangosfa unigryw hon cyn i’r Llyfr Coch adael y wlad.
Dywedodd Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:
“Gyda chryn dristwch rydym yn gorfod dychwelyd Llyfr Coch Hergest yn ôl i Loegr. Cyn hyn, unwaith yn unig y bu’r Llyfr Coch yng Nghymru ers ei alltudiaeth i Rydychen ym 1701, ac ni ddisgwylir y bydd yn croesi Clawdd Offa eto am rai blynyddoedd. Er hynny, pleser o’r mwyaf i mi yw gallu croesawu Dâm Rosemary i’r Llyfrgell. Rydym yn ddiolchgar iddi am alw heibio ac am ei chefnogaeth bersonol hi a chefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal i waith y Llyfrgell Genedlaethol”.
 ymlaen i ddweud:
“Yn fuan iawn bydd y Llyfrgell yn cyhoeddi ei Chynllun Strategol newydd - Gwybodaeth i Bawb – a’r bwriad yw dangos i’r Llywydd – yn ystod yr amser byr y bydd hi yn y Llyfrgell - sut y bwriada’r sefydliad ddarparu mynediad i gynnwys safonol o Gymru ac o fannau eraill o’r byd, a chyfrannu’n sylweddol at y dasg o adeiladu Cymru gynhyrchiol, fedrus, lythrennog, â chysylltiad â’r byd tu allan. Braf fydd medru rhannu ein gweledigaeth gyda’r Llywydd.
Dyma ymweliad cyntaf Rosemary Butler â’r Llyfrgell ers ei phenodi’n Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk