Symud i'r prif gynnwys

Cyfweliadau Sinema Hepworth wedi eu cofnodi ar gofrestr Cof y Byd UNESCO

Heno yng Nghaeredin, mewn seremoni wobrwyo wedi ei threfnu gan y Scottish Council on Archives o dan nawdd Banc Lloyds, bydd Pwyllgor Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol yn cyhoeddi naw enw newydd i’w cofnodi ar gofrestr y DG o dreftadaeth ddogfennol eithriadol. Ymhlith y naw bydd Cyfweliadau Sinema Hepworth, ffilm fud o 1916 o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Cyfweliadau Sinema Hepworth

Wedi ei ffilmio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan roedd Lloyd George yn Ysgrifennydd Rhyfel ac H H Asquith yn Brif Weinidog, mae’r ffilm yn gofnod sinematig o farn arweinwyr ac enwogion Prydain a gefnogai’r rhyfel, ac mae’n enghraifft gynnar o ymddangosiadau gan wleidyddion ar y cyfryngau torfol.

Fe’i ffilmiwyd a’i rhyddhau ar gyfer sinemau mewn tair rhan, ac mae’n cynnwys areithiau gan 36 o enwogion fel Bonnar Law, Robert Cecil, John Masefield ac eraill – ac, yn ôl John Reed, Swyddog Cadwraeth Ffilm AGSSC:

“Mae’n debygol  yn achos nifer o’r ffigyrau, mai dyma’r unig dro i nifer o’r enwogion yma ymddangos o flaen y camera, ac mae’r ffilm yn cynnig cipolwg ar eu hagweddau tuag at y rhyfel a’i oblygiadau, fel yr oedd yn digwydd.

Yn achos nifer o’r ffigyrau gwleidyddol, fel Lloyd George, mae ffilmiau newyddion o’r cyfnod wedi goroesi ohonynt yn gwneud areithiau o flaen cynulleidfa, ond mae’r syniad o’u gosod i siarad un uniongyrchol â’r camera yn un newydd.”

Mae’n ffilm fud, felly does dim modd clywed y geiriau, ac ateb y cyfarwyddwr, Cecil Hepworth, i’r broblem hon yw i ddangos darnau o’r areithiau yn ysgrifenedig ar y sgrin rhwng siotiau o’r person yn siarad, yn ôl arferiad ffilmiau mud y cyfnod. O ganlyniad, gallwn weld osgo a symudiadau’r person wrth geisio cyfleu ei neges. Ar gyfartaledd, mae pob cyfweliad tua 90 eiliad o hyd.

Mae’r copi sydd yng ngofal Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ar ffilm nitrad, a dyma’r unig fersiwn gyflawn o’r cynhyrchiad y gwyddir amdano.

Rhaglen Cof y Byd UNESCO

Sefydlodd UNESCO Raglen Cof y Byd (CyB) ym 1992. Gweledigaeth y rhaglen yw fod treftadaeth ddogfennol y byd yn berchen i bawb, y dylai gael ei gadw a’i warchod ar gyfer pawb ac y dylai, gyda phob parch at foesau cymdeithasol ac ymarferoldeb, fod ar gael yn barhaol ac yn ddi-rwystr.

Bydd y naw enw newydd yn ymuno â’r 41 sydd eisioes wedi eu cofnodi ar gofrestr y DG (un o nifer o raglenni ar lefel gwladol o gwmpas y byd). Mae dyfarnu’r statws yma, a gaiff ei gydnabod ar draws y byd, yn helpu codi ymwybyddiaeth am rai o drysorau dogfennol eithriadol y DG. Rhoddir ystyriaeth i enwebiadau yn unol ag ystod o ofynion, sydd yn cynnwys dilysrwydd, prinder, cywirdeb, bygythiad ac arwyddocâd cymdeithasol, ysbrydol a chymunedol.

Y seremoni wobrwyo

Heno bydd Ysgrifennydd Diwylliant a Materion Allanol Cabinet yr Alban, Fiona Hyslop MSP, yn croesawu gwobrau CyB i’r Alban am y tro cyntaf. Bydd y Fonesig SusanRice, Prif Weithredwr Grŵp Bancio Lloyds yr Alban, yn derbyn gwesteion o bob rhan o’r DG. Ychwanegwyd cofnodion o Fanc yr Alban i’r cofrestr yn 2011.

Er gwybodaeth

Mae casgliad Peniarth Llyfrgell Genedlaethol Cymru eisioes wedi ei gofnodi ar Gof y Byd. Ym mis Gorffennaf 2010, cynhwyswyd Casgliad Llawysgrifau Peniarth yng Nghofrestr Cof y Byd UNESCO ar gyfer y Deyrnas Unedig. Gyda throsglwyddiad y casgliad hwn i Aberystwyth yn 1909 y sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymysg trysorau Cymraeg y casgliad y mae Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch, ond mae ynddo hefyd gynrychiolaeth o ieithoedd megis Lladin, Almaeneg, Ffrangeg a’r Gernyweg. Un o brif drysorau Saesneg y casgliad yw llawysgrif gynharaf Chwedlau Caergaint, Geoffrey Chaucer. Bydd darllen rhannau o hwnnw yng Nghaeredin nos Iau yn cadarnhau statws casgliad Peniarth fel treftadaeth ddogfennol sydd o bwysigrwydd lleol ac sydd hefyd o arwyddocâd byd-eang.

Gwybodaeth Bellach

Anwen Pari Jones, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru 01970 632535 neu ajo@llgc.org.uk