Symud i'r prif gynnwys

Cael hyd i hanes ei theulu yng nghelloedd y Llyfrgell Genedlaethol

Y mae gwraig o Landre, sy’n gwneud gwaith gwirfoddol yn y Llyfrgell Genhedlaethol,  wedi dod ar draws hanes llong  â chysylltiad teuluol  mewn bocs yn y Llyfrgell.

Yn ôl Gwenno Watkin, roedd gan ei hen famgu, Sarah Davies, fodel o long y ‘Sarah Davies’, llong hwylio a gofrestrwyd ym mhorthladd Aberystwyth yn ystod y cyfnod hwnnw yn hanes y dref pan oedd  ymhlith y prysuraf yng Nghymru.  Mae Gwenno hefyd wedi llwyddo i ddilyn hynt a helynt ei hen ewythr, o ardal Aberporth, a oedd yn forwr yn ystod y cyfnod.  Dywedir ei bod “wrth fy modd yn trafod yr hen ddogfennau yma, roedd y cyfnod yn un prysur iawn yn hanes porthladd Aberystwyth - mae 'na stori yn gysylltiedig â phob llong”.

Un o brosiectau Cynllun Gwirfoddoli'r Llyfrgell Genedlaethol yw cofnodion ‘Llongau Aberystwyth’, sy’n rhoi cyfle i wirfoddolwyr  drawsysgrifio manylion personol o’r rhestri criwiau gwreiddiol.  Bydd y data a gesglir yn adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr ac i’r rhai sy’n hel achau.

Yn ôl Gwyneth Davies, cydlynydd y cynllun:
“Erbyn hyn y mae dros 75 o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan o’r cynllun, gan weithio ar 14 o brosiectau amrywiol.  Dim ond yn 2012, ar ôl derbyn  nawdd gan y Gronfa Loteri Fawr, y bu i’r Llyfrgell ddechrau croesawu gwirfoddolwyr i weithio ar y casgliadau, ond erbyn hyn y mae’n un o’r cynlluniau gwirfoddoli mwyaf llwyddiannus ymhlith sefydliadau cyhoeddus Cymru”.  

Bydd ffair gwirfoddolwyr cyntaf y Llyfrgell yn cael ei chynnal ar ddydd Iau, 5ed o Fehefin, mewn cydweithrediad â CAVO.  Yn ogystal â rhoi cynnig ar brosiectau gwirfoddoli'r Llyfrgell, bydd hefyd yn gyfle i weld a thrafod amrywiol gyfleoedd gwirfoddoli eraill sydd ar gael yn lleol.

Mae gweithgareddau’r dydd yn cynnwys  cyflwyno Gwobrau Cydnabyddiaeth Gwirfoddolwr Ceredigion 2014.

Meddai Hazel Lloyd Urban, Prif Weithredwr CAVO:
“Mae Gwobrau Gwirfoddoli CAVO yn cynnig cyfle i ni gydnabod ymdrechion rhai unigolion anhygoel, a diolch i rai o’r cannoedd o wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser a’u hegni i wneud cyfraniad hanfodol i’w cymunedau a gwneud gwahanaieth i fywydau eraill.”

Ychwanegodd John Jones, Ymddiriedolwr CAVO:
“Y gobaith yw y bydd y diwrnod arbennig hwn yn codi ymwybyddiaeth o werth a phwysigrwydd gwirfoddoli o fewn y sir.”

Yn ôl Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:
“Mae gwirfoddolwyr yn rhan annatod o ‘deulu’ y Llyfrgell erbyn hyn ac yr ydym yn wir werthfawrogi’r gwaith a gyflawnir ganddynt.   Mae gwirfoddoli yn ffordd effeithiol o ddatblygu sgiliau ar gyfer y gweithle, tra’r un pryd  yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd - a chael tipyn o hwyl!  Pleser yw cael rhannu cwmnïaeth gyda’r gwirfoddolwyr brwd o bob oed a chefndir sy’n dod yma’n wythnosol i gefnogi gwasanaethau'r Llyfrgell”.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Haf, 01970 632471 neu post@llgc.org.uk