Symud i'r prif gynnwys

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1914 ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014

Ar ddydd Gwener 8 Awst, bydd cadair Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1914, yn cael ei harddangos ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol yn Eisteddfod Sir Gâr (rhif stondin 401- 405).

Mae ymddangosiad y Gadair yn cofnodi canrif union ers dechrau’r Rhyfel Mawr, ac mae’n cyd-fynd â thema’r arddangosfa, ‘Cofio Canrif’ sydd i’w gweld ar stondin y Llyfrgell.

Creuwyd y gadair gan gwmni Messrs Waring & Gillow Ltd., Lerpwl ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1914.  Dyma gadair o dderw trwm wedi’i cherfio â draig dalsyth, gyda dreigiau canoloesol fel seirff ar ei breichiau. Mae, yn sicr, ymhlith un o’r cadeiriau harddaf a grëwyd ar gyfer y Brifwyl. 

Gyda dechrau’r Rhyfel Mawr yn 1914, a milwyr ifainc o Gymry yn ymladd ar faes y gad, teimlwyd nad oedd hi’n addas cynnal Eisteddfod y flwyddyn honno. Felly, penderfynwyd gohirio Eisteddfod 1914 – yr Eisteddfod gyfoes gyntaf i’w gohirio.

Roedd David Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ar y pryd (1908 -1915) ac, er parhad y Rhyfel, roedd yn awyddus  iawn i ail-sefydlu’r Eisteddfod. Felly y flwyddyn ganlynol, yn 1915, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Gan fod y Gadair eisoes wedi’i chreu blwyddyn ynghynt, penderfynwyd ei chyflwyno fel gwobr yn Eisteddfod 1915. Mae yma blac pres wedi’i gosod ar gefn y Gadair yn cofnodi hyn.

Enillydd y Gadair oedd T.H Parry Williams, am ei awdl “Eryri”. Yn y flwyddyn hon cipiodd  y Goron hefyd (campwaith a gyflawnwyd ganddo eisoes yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1912).

Gwybodaeth Bellach

post@llgc.org.uk neu 01970 632471