Symud i'r prif gynnwys

Structures of Feeling: Geoff Charles

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Ryngwladol Ffotograffiaeth Caerdydd Diffusion a gynhelir rhwng 1 a 31 Mai 2013.Gŵyl mis o hyd yw Diffusion gydag arddangosfeydd, trafodaethau, dangosiadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn gofodau a llefydd go iawn a rhithwir.

Bydd Arddangosfa o waith y ffotonewyddiadurwr Geoff Charles o gasgliad y Llyfrgell yn cael ei arddangos yn y Tramshed, Heol Clare, Grangetown.  Curadwyd yr arddangosfa gan Peter Finnemore a Russell Roberts.
Am bron hanner canrif, bu Geoff Charles yn ffotonewyddiadurwr blaenllaw gydag amryw o bapurau a chylchgronau Cymreig. Ledled gogledd Cymru a’r gororau, dogfennodd ffabrig bywyd bob-dydd yn ogystal â thraddodiadau a moderneiddio Cymru. Mae damweiniau, ffasiwn, ffermio, Eisteddfodau, achlysuron dinesig, diwydiant, teithio, protest a rhyfel oll yn cael eu dogfennu yn ei waith.

Mae’r arddangosfa, sy’n cynnwys printiau graddfa-fawr ynghyd â thafluniadau a ffilm, hefyd yn archwilio’r angen am ymyriad cyson o fewn casgliadau i sicrhau y gallant ddal i fod yn hyblyg ac yn agored i’w hadolygu.

Mae Diffusion 2013 yn archwilio’r newidiadau diwylliannol hyn a gwahanol ffyrdd o gynhyrchu, cyflwyno a dosbarthu celf. Edrychir ar y berthynas mewn celf ffotograffig rhwng ffurfiau traddodiadol a rhai newydd cymysgryw a’u lle yn y diwylliant gweledol cyfoes. Cynigir gofod i artistiaid, gweithredwyr diwylliannol a chynulleidfaoedd rannu profiad ac ymdrech creadigol, i gychwyn gwneud synnwyr o fyd lle y gall, ac y gwna, bron unrhyw un droi’n ffotograffydd a dosbarthu eu delweddau o fewn cymunedau ar-lein – cymdeithas lle bu newid dramatig yn ein profiad o amser a gofod.

Cynhelir Diffusion 2013 yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, a weddnewidiwyd yn economaidd a chymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ŵyl yn defnyddio cyfryngau traddodiadol a newydd i greu presenoldeb gweledol cryf ar draws lleoliadau perfformio sy’n bod eisoes a gofodau cael, a thrwy wahanol ymyriadau yn y parth cyhoeddus. Anogwn ymwelwyr a thrigolion ill dau i grwydro Caerdydd a’r cyffiniau mewn ffyrdd newydd a dod o hyd i agweddau ar y ddinas na fyddent yn disgwyl eu darganfod fel arfer.

Yn bennaf oll, dathliad yw Diffusion 2013 o ffotograffiaeth a’r ddelwedd ffotograffig yn ei holl ffurfiau. Boed wedi ei greu, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei gasglu neu ei ddosbarthu mewn ffordd real neu rithwir, mae gan y ffotograff y pŵer i ysbrydoli ac ennyn ymateb, i adlewyrchu’n profiad ein hunain ac eiddo’r gymdeithas sy’n esblygu o’n cwmpas.

Gwybodaeth Bellach

Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk