Statws Aur i’r Llyfrgell Genedlaethol
Yn ddiweddar, dyfarnwyd statws aur Buddsoddwyr mewn Pobl i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n dangos i bobl eu bod yn gweithio i sefydliad sy’n ceisio gwella perfformiad a chyflawni amcanion cyffredin drwy annog a datblygu eu pobl yn effeithiol.
Meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Rydym ni fel Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hynod falch fod gwaith ymroddedig staff y sefydliad wedi'i gydnabod trwy ennill Safon Aur asesiad Buddsoddwyr mewn Pobl yn ddiweddar. Fel sefydliad, rydym yn hybu cyfleoedd i annog a datblygu ein staff fel bod hyn yn ei dro'n ein galluogi i allu cynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n defnyddwyr’
Yn ôl Buddsoddwyr mewn Pobl:
‘Drwy gyflawni statws Buddsoddwyr mewn Pobl, mae eich sefydliad ar flaen y gad o ran arferion da. Mae’n dangos yn glir i bawb eich bod yn ymrwymedig i welliant parhaus drwy eich prif adnodd: eich pobl’
Ychwanegodd Siân Jones, Rheolwr Adnoddau Dynol:
Rydym yn falch iawn o gyrraedd y Safon Aur Buddsoddwyr Mewn Pobl ac mae’n adlewyrchiad o'r gwaith ardderchog gaiff ei gwblhau gan reolwyr a staff y Llyfrgell, er mwyn sicrhau ein bod ateb ac yn rhagori yn ateb anghenion ein defnyddwyr.'
Gwybodaeth Bellach
Elin – Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk