Symud i'r prif gynnwys

Pwythau Diwyd

Ar y 5ed o Fedi 2013 dadorchuddir panel o frodwaith arbennig yn Amgueddfa Abertawe i ddathlu cwblhau prosiect cyntaf Cynllun Eluned Gymraes Davies, cynllun sy’n cael ei reoli gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y darn yn rhan o arddangosfa ‘Copperopolis’ yr amgueddfa, sy’n edrych ar hanes y diwydiant copr yn ninas Abertawe.

Crëwyd y panel fel rhan o’r prosiect crefft cyntaf mewn cyfres o chwech a fydd yn cael eu cyflwyno mewn gwahanol ranbarthau o Gymru yn ystod y dair mlynedd nesaf. Noddwyd y rhaglen drwy arian a dderbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru oddi wrth ystâd Eluned Gymraes Davies (1910-2004) i’w choffáu. Bu i Eluned Gymraes Davies, a oedd yn byw ym Mhontardawe, chwarae rhan allweddol pan sefydlwyd Canolfan Gymunedol Tŷ Bryn yn Uplands, Abertawe dros 60 mlynedd yn ôl, a chafodd ei hapwyntio yn Bennaeth cyntaf yno.

Meddai Rhodri Morgan, Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Oherwydd ei chyfraniad at addysg gymunedol a’i harbenigedd mewn gwaith nodwydd, mae’n addas iawn fod prosiect cyntaf Cynllun Eluned Gymraes Davies wedi ei seilio ar frodwaith ac wedi ei gyflwyno yng Nghanolfan Tŷ Bryn, Abertawe.”

Arweiniwyd y gweithdai gan diwtoriaid profiadol y Ganolfan, ac ysbrydolwyd dyluniad y panel gan eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Bu’r myfyrwyr yn gweithio’n ddiwyd gydol y gaeaf a’r gwanwyn yn cwblhau’r darn gorffenedig, yn ogystal a’u darnau unigol o frodwaith.

Dywedodd un o’r myfyrwyr, Jean Bills:
“Mae’r nawdd a gawsom wedi ein galluogi i ddefnyddio deunyddiau anghyffredin na fyddai ar gael i ni fel arfer, ac yn sgil hynny dysgom ni am hen dechnegau sydd bron a diflannu.”

Ychwanegodd Judith Porch, Swyddog Datblygu Addysg Cymunedol Dinas a Sir Abertawe:
“Rydym fel Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ac Hyfforddiant Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe yn falch o gydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu cyfleon addysgiadol i aelodau ein cymuned tra’n ymestyn gwaddol Eluned Gymraes.”

Bydd y brodwaith i’w weld yn Amgueddfa Abertawe tan haf 2014, pan fydd y darn yn cael ei drosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk
Gwefan Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ymysg y prosiectau eraill mae

Prosiect Pen Llyn (gwaith metel) Ebrill-Hydref 2013
Prosiect Wrecsam (nyddu gwlân) Tachwedd 2013-Mehefin 2014