Menter Newid Pethe yn rhoi cyfle i ragor o blant ddathlu Diwrnod y Llyfr mewn llyfrgelloedd ledled Cymru
Mae menter Newid Pethe yn rhoi cyfle i ragor o blant ddathlu Diwrnod y Llyfr mewn llyfrgelloedd ledled Cymru.
Er mwyn annog hyd yn oed mwy o blant a phobl ifanc i ddathlu Diwrnod y Llyfr, ac i ddod i gysylltiad â llyfrgelloedd ledled y wlad, mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth – trwy gyfrwng Newid Pethe, un o fentrau Llywodraeth Cymru – wedi cynyddu ei gefnogaeth i weithgareddau mewn llyfrgelloedd ym mhob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru. Bydd gweithgareddau Diwrnod y Llyfr yn cynnwys ymweliadau gan awduron, sesiynau stori a gweithdai ysgrifennu.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn cefnogi pythefnos o weithgareddau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a threfnir digwyddiadau yno’n rhad ac am ddim i o leiaf 12 ysgol o Bowys, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Nod ein menter Newid Pethe yw dod o hyd i ffyrdd newydd o rannu ein hamgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a mannau hanesyddol gyda phobl ifanc a’u teuluoedd, yn arbennig y rheini sy’n dod o gefndiroedd llai breintiedig. Bydd hefyd yn helpu asiantaethau cymorth a’r sector diwylliant i weithio hyd yn oed yn well gyda’i gilydd.”
Dywedodd Angharad Tomos, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth ychwanegol hon gan Lywodraeth Cymru, trwy’r cynllun Newid Pethe. Mae’r digwyddiadau hyn, a gynhelir o gwmpas Diwrnod y Llyfr, yn ffordd wych o gysylltu â phlant a’u teuluoedd, a’r gobaith yw y byddant yn annog hoffter o ddarllen fydd yn para am oes. Mae’r arian ychwanegol wedi galluogi’r Llyfrgell Genedlaethol a Gwasanaethau Llyfrgell ledled Cymru i gynnig rhaglen o weithgareddau hwyliog a chyffrous, yn seiliedig ar lyfrau a darllen.”
Dywedodd Owen Llywelyn, ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu Diwrnod y Llyfr trwy gyflwyno deuddeg o weithdai i ddisgyblion ysgolion cynradd. Yr ysgolion a wahoddir i ymweld â’r Llyfrgell yw Castell Caereinion, Trefaldwyn, Griffith Jones, Dyffryn Trannon, Llechyfedach, Dewi Sant Llanelli, Llan-non Llanelli, Glantwymyn, Cefn Coch, Pont-ffranc, Llanfair Caereinion a Dyffryn Banw.”
Bydd disgyblion yn dysgu am y casgliad anhygoel o lyfrau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol; cânt gyfle i weld y llyfr printiedig lleiaf yn y byd, sy’n mesur 1mm x 1mm; llyfrau ‘eliffant’ anferth, a chopi gwreiddiol o’r Beibl Cymraeg cyntaf un. Byddant hefyd yn cael gwybod mwy am rai o’r chwe miliwn o lyfrau sy’n ffurfio rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol; byddant yn gweld llawysgrif o’r Oesoedd Canol, ac yn dysgu sut roedd llyfrau’n cael eu cynhyrchu cyn i’r wasg argraffu gael ei dyfeisio.”
Gwybodaeth Bellach
Nia Lewis nsl@llgc.org.uk neu 01970 632996
Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2013 ddydd Iau 7 Mawrth, gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau difyr a diddorol yn cael eu cynnal ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth, dilynwch ni ar Facebook Diwrnod y Llyfr / World Book Day a Twitter @DYLLCymruWBDWales. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ddefnyddio’r hashnod isod mewn unrhyw ohebiaeth:#newidpethe