Llawysgrifau hanesyddol yn cael eu harddangos gyda’i gilydd am y tro cyntaf
Heddiw, mewn digwyddiad unigryw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, cafodd arddangosfa sy’n dod â phedair llawysgrif hanesyddol eiconig o dan yr un to am y tro cyntaf erioed ei hagor yn swyddogol gan John Griffiths, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru. Cafodd y llawysgrifau eu hysgrifennu yn y drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae llawer o gyfeiriadau at chwedlau a llenyddiaeth gynnar Cymru i’w cael rhwng y cloriau.
Yn ôl y Gweinidog, ni ddylai unrhyw un golli’r cyfle i weld y pedwar llyfr gyda’i gilydd:
“Rydyn ni’n aml yn siarad am ddigwyddiadau hanesyddol, unwaith mewn oes, ond does dim amheuaeth bod hwn yn un o’r digwyddiadau hynny. Mae’r arddangosfa hon yn glod i’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n rhoi cyfle i bobl Cymru a thu hwnt weld y llyfrau hyn sydd, yn ôl ein hysgolheigion, yn asgwrn cefn i’r diwylliant a hunaniaeth Gymreig. Roeddwn i wrth fy modd o allu eu gweld â’m llygaid fy hunan a chael y cyfle wedyn i drafod â phlant ysgol leol eu harwyddocâd i fywyd yng Nghymru. Roedd yn bleser clywed bod y llawysgrifau canoloesol hyn yn dal i ysbrydoli pobl ifanc heddiw. Byddwn i’n annog pawb i ymweld â’r Llyfrgell i gael gweld darn o hanes.”
Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Aneirin a Llyfr Coch Hergest yw’r pedwar llyfr sy’n cael eu harddangos. Mae’r tri cyntaf yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol erbyn hyn (mae Llyfr Aneirin yno ar fenthyg oddi wrth Gyngor Dinas Caerdydd). Mae Llyfr Coch Hergest, y mwyaf o’i fath o’r cyfnod, yn cael ei gadw, fel arfer, ym Mhrifysgol Rhydychen. Hwn fydd y cyfle cyntaf erioed, felly, i weld y pedwar llyfr gyda’i gilydd.
Dywedodd Aled Jones, Prif Weithredwr a Phrif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er mai’r pedwar llyfr fydd prif atyniad yr arddangosfa hon, ei bod hi’n werth cofio hefyd fod trysorau eraill yn mynd i gael eu harddangos yn ystod y misoedd sydd i ddod:
“Mae rhoi cyfle i bobl ddod i weld yr arteffactau eiconig hyn gyda’i gilydd am y tro cyntaf erioed yn destun cyffro mawr inni yma. I wella profiad ymwelwyr newydd rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf, rydyn ni’n llunio rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gyd-fynd â’r arddangosfa hon. Diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gallwn ni nawr gynnig cyfle i ymwelwyr weld fersiwn newydd o lawysgrif Boston o Gyfraith Hywel Dda a llawysgrif Hendregadredd, sy’n cynnwys llawysgrifen Dafydd ap Gwilym ei hun.”
Dywedodd Maredudd ap Huw, Llyfrgellydd Llawysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol, fod pwysigrwydd y llyfrau yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod cyfeiriadau at ein mythau a’n chwedlau mwyaf cyffredin i’w cael rhwng eu cloriau:
“Mae Llyfr Du Caerfyrddin yn un o’n prif ffynonellau sy’n cyfeirio at y chwedl Arthuraidd a chwedl Myrddin. Fodd bynnag, mae’n ymddangos taw mynach tlawd a ysgrifennodd y llawysgrif hon i gofnodi ei hoff gerddi ar wahanol adegau o’i fywyd, gan ddefnyddio papur tenau yn hytrach na’r deunydd mwy soffistigedig a ddefnyddiwyd gan gopïwyr mwy cyfoethog. Ar y llaw arall, mae Llyfr Aneirin yn cynnwys yr hyn y credir yw’r hwiangerdd gyntaf i gael ei chofnodi yng Nghymru, sef Pais Dinogad. Cynnwys amrywiol y ddwy ddogfen hon sy’n eu gwneud nhw’n gofnod hanesyddol mor hudolus.”
Tra bo’r Gweinidog yn y Llyfrgell, cafodd gyfle i gyfarfod â phlant Ysgol Talybont a oedd yno ar ymweliad addysgol. Wedyn, aeth ymlaen i bencadlys a chanolfan ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru.
Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol tan 15 Mawrth 2014.
Gwybodaeth bellach
Elin Hâf, 01970 632471 neu post@llgc.org.uk