John Petts: Dyluniadau Ffenest Gwydr Lliw
"An idea doesn't exist unless you do something about it” John Petts
Bydd dyluniadau ffenest gwydr lliw gan un o gerfwyr pren amlycaf yr ugeinfed ganrif; John Petts i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan 14 Rhagfyr 2013.
Hanner can mlynedd yn ôl ar 15 Medi 1963, plannodd y grŵp eithafol y Ku Klux Klan fom yn Eglwys Fedyddwyr 16th Street Birmingham yn Alabama, gan ladd pedair merch ddu a oedd yn mynychu’r Ysgol Sul yno.
Cyffyrddodd y weithred hon o derfysgaeth â chalonnau’r Cymry, yn enwedig yr artist John Petts a oedd ar y pryd yn byw yn Llansteffan. Cynigiodd ei wasanaeth drwy ddylunio ffenest gwydr lliw newydd ar gyfer yr eglwys, a gyda chymorth y Western Mail lansiodd ymgyrch i godi arian ar gyfer yr apêl. Dwysaodd yr ymgyrch wrth i’r arian lifo i mewn oddi wrth y werin a’r miloedd, gyda'r Western Mail yn cyhoeddi delweddau o resi o bobl Gymreig o bob tras yn aros i roi’r hyn oedd ganddyn nhw tuag at yr achos.
Ymwelodd Petts â’r eglwys gan weithio ar y dyluniad dros gyfnod o flwyddyn ac mae’r astudiaethau a’r dyluniad terfynol gan Petts, yn darlunio Crist croenddu gyda’i freichiau ar led, a oedd yn cael ei ystyried ar y pryd yn ddadleuol i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn 1965, gosodwyd y ffenest yn ei lle, wedi’i chyflwyno gyda’r geiriau ‘Given by the people of Wales’. Heddiw, mae’r ffenest yn cael ei hadnabod fel y ‘Wales Window’ ac y mae’n symbol eiconig o’r mudiad hawliau sifil Americanaidd.
Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r cynlluniau cywrain yma wedi eu trysori gan y Llyfrgell Genedlaethol ar ran y genedl, nid yn unig oherwydd eu rhagoriaeth artistig a gwerth hanesyddol, ond fel symbol o garedigrwydd y Cymry. I gofio am y drychineb, mae’r dyluniadau wedi cael eu digido fel rhan o’n casgliad ar-lein, a gall ymwelwyr â’r Llyfrgell weld y dyluniadau gwreiddiol mewn arddangosfa hyd ddiwedd y flwyddyn”
Mae’r ffenest wydr lliw dal i’w gweld hyd heddiw yn Eglwys Fedyddwyr 16th Street Birmingham yn Alabama ac yn arwydd o undod rhyngwladol ac yn gof o’r bywydau a gollwyd ym mis Medi 1963.
Gwybodaeth bellach
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
John Petts – Gwydr Lliw
14 Medi –14 Rhagfyr 2013