Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd
I ddathlu Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd (26 Ebrill) ac i ennyn trafodaeth am rôl Eiddo Deallusol mewn annog arloesedd a chreadigrwydd, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi penderfyniad arloesol mewn perthynas â’u casgliadau digidol, trwy ddatgan na fyddent bellach yn hawlio perchnogaeth o hawlfraint copïau digidol sydd yn eu gofal.
Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae’r Llyfrgell wedi bod yn weithgar iawn wrth ddefnyddio’r we a digido fel ffordd o ehangu mynediad i’w casgliad. O’r llawysgrifau cynharaf i gyfrolau dirifedi o bapurau newydd Cymraeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’r Llyfrgell wedi digido a chyhoeddi copiau o rai o’u casgliadau mwyaf gwerthfawr fel bod pawb yn gallu eu gweld ar-lein, unrhyw le, unrhyw bryd.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Llyfr Du Caerfyrddin (c.1250): un o'r llawysgrifau Cymraeg cynharaf i oroesi.
- Yny lhyvyr Hwnn gan John Price (1546), y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yn yr iaith Gymraeg.
- Atlas Sirol Thomas Taylor (1718), yr atlas cyntaf yn ymwneud yn gyfan gwbl â Chymru.
- Papurau Newydd Cymru Ar-lein – prosiect digido mwyaf y Llyfrgell
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y Llyfrgell yn gweithredu polisi a fydd yn golygu y bydd miloedd o’r delweddau sydd ar ei gwefan yn rhydd o gyfyngiadau hawlfraint. Dylai defnyddwyr y wefan fod yn ymwybodol y bydd hawliau trydydd parti ynghlwm wrth rhai o’r delweddau ac bydd angen clirio rheini cyn eu defnyddio, ond ni fydd y Llyfrgell yn gosod unrhyw gyfyngiadau hawlfraint ychwanegol arnynt oni bai ei bod berchen yr hawlfraint yn y gwaith gwreiddiol. Bydd fersiynau cydraniad uchel o’r delweddau yn parhau i fod ar gael dan drwydded drwy Wasanaeth Ymholiadau’r Llyfrgell.
Meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Mae’r penderfyniad pwysig hwn yn gyson â'r agwedd agored am dechnoleg ddigidol rydym wedi ei fabwysiadu dros y ddegawd ddiwethaf. Nid penderfyniad wedi ei selio ar ein dehongliad ni o gyfraith hawlfraint mohoni; mae’n ddatganiad am sut rydym ni yn canfod ein rôl fel Llyfrgell Genedlaethol o fewn Cymru ddigidol. Hyd y gwyddom, ni yw’r unig sefydliad diwylliannol o fewn y DU sydd wedi gwneud datganiad clir ynglŷn â pherchnogaeth a didwylledd ein casgliad digidol.’
Ychwanegodd Dafydd Tudur, Rheolwr Hawliau a Gwybodaeth y Llyfrgell:
‘Mae hwn yn gyfle gwych i rannu ein casgliadau gyda phobl Cymru a thu hwnt. Dylai bod gan y cyhoedd yr hawl i ddefnyddio a gweld y casgliadau sydd o dan ein gofal a dylai’r Llyfrgell Genedlaethol gael ei gweld fel hwylusydd yn hytrach na cheidwad porth.’
Mae’r agwedd hon wedi ei chroesawu’n fawr gan ddefnyddwyr y Llyfrgell ac mae wedi creu diddordeb mawr o fewn y sector ddiwylliannol. Bydd y datblygiad hwn nid yn unig yn cyfrannu tuag at gynyddu ymwybyddiaeth o hanes Cymru a’i phobl yng Nghymru a thu hwnt, ond bydd hefyd yn cynyddu proffil Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ailddatgan ei statws fel un o sefydliadau diwylliannol mwyaf arloesol y Deyrnas Unedig.
Gwybodaeth Bellach
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk