Symud i'r prif gynnwys

Diweddariad ar y sefyllfa yn dilyn y tân yn y Llyfrgell Genedlaethol

Ni achoswyd niwed i drysorau dogfennol mwyaf arwyddocaol y genedl gan y tân diweddar yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, er i rai eitmau o’r casgliadau, er mawr siom, gael eu dinistrio. Oherwydd ymateb diymdroi’r staff wrth roi Cynllun Argyfwng y sefydliad ar waith yn syth, bu effaith y tân ar y casgliadau cenedlaethol gymaint a hynny’n llai.

Difrodwyd chwe llawr mewn un rhan o’r Llyfrgell a adwaenir fel y ‘Trydydd Adeilad’ . Swyddfeydd oedd ar bump o’r lloriau hyn ac ystafell gyfrifiaduron ar y llawr gwaelod. Dim ond ar bedwar o’r chwe llawr yr oedd staff yn gweithio ar y casgliadau.

Roedd y storfeydd lle cedwir yr holl gasgliadau, gan gynnwys rhai o brif drysorau’r genedl, heb eu niweidio nac ychwaith asedau digidol y Llyfrgell.

Mae’r Llyfrgell wedi datblygu tîm o gadwraethwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n benodol i atal ac i atgyweirio difrod i’r casgliadau. Unwaith yr oedd y tân dan reolaeth a’r  Gwasanaethau Tân ac Achub yn hapus i rai aelodau o staff i fynd i mewn i’r adeilad, adnabuwyd yr ardaloedd hynny a oedd dan fwyaf o fygythiad ac yn cynnwys y deunydd mwyaf gwerthfawr, symundwyd eitemau allan i fannau diogel. Roedd hyn yn cynnwys lluniau, llawysgrifau, deunydd archifol, mapiau a llyfrau. Dioddefodd yr eitemau hyn yr ychydig lleiaf o ddifrod dŵr ac erbyn dechrau’r wythnos ddilynol roeddent wedi’u hadfer yn llwyr gan y tîm mewnol.

Ar yr un pryd aethpwyd ati i leihau’r difrod dŵr i’r swyddfeydd islaw drwy orchuddio silffoedd a dodrefn gyda shitiau plastig.

Roedd llawer o’r gwaith hwn wedi’i  gwblhau cyn i arbenigwyr argyfwng cadwraeth o gwmni Harwell, Rhydychen, gyrraedd am 9:30pm ar y nos Wener. Mae Harwell yn arbenigo mewn adfer deunydd llyfrgellyddol ac archifol yn dilyn trychinebau.

Dywedodd Emma Dadson o gwmni Harwell:

'Gweithiodd Cynllun Argyfwng y Llyfrgell yn arbennig o dda. Cyflawnwyd gwaith cychwynnol ardderchog wrth orchuddio gofodau storio gyda shîtiau plastig a blaenoriaethu gwagio’r caets derbynion diweddar. Roedd y staff yn weithgar a brwdfrydig ac roedd ganddynt yr holl offer oedd angen arnynt ar gyfer y gwaith. Gwelwyd arweinyddiaeth dawel ac awdurdodol drwy gydol yr argyfwng.’

Roedd peth deunydd wedi’i wlychu’n ddifrifol a’i effeithio gan fwg. Aeth cwmni Harwell a 140 o gratiau wedi’u pacio’n ofalus gan staff y Llyfrgell, i’w canolfan yn Rhydychen i’w sychrewi. Trosglwyddwyd tua’r un nifer o eitemau’n fewnol i’r Uned Gadwraeth i’w sychrewi neu i’w sychu a’u hadfer. Er bod y difrod hwn yn ddifrifol, disgwylir, yn y man, y bydd y deunydd yn cael ei ddychwelyd i’r casgliadau mewn cyflwr bron cystal â’r gwreiddiol. Mae cynnwys y cratiau sy’n cael sylw mewnol ac allanol yn cynnwys rhai casgliadau a llawer o bapurau gwaith a deunydd catalogio. Bydd rhestr gyflawn o’r deunydd hwn ar gael tua diwedd yr haf pan fydd staff wedi cael cyfle i gwblhau eu gwaith manwl.

Meddai Avril Jones, Cyfarwyddwr Gwasnaethau Casgliadau’r Llyfrgell:

‘Rydym yn siomedig iawn fod 140 o gratiau o ddeunydd wedi dioddef niwed dŵr a mwg, ac fel y gwelir yn y rhestr, ni fu’n bosib i ni adfer rhai eitemau.  Serch hynny, i’w roi yn ei gyd destun, mae 120 o gratiau tebyg o lyfrau yn cyrraedd y Llyfrgell yn wythnosol heb sôn am ddeunyddiau eraill. Er mor fawr oedd graddfa’r tân, mae hyn yn tanlinellu sut y bu i ni ddelio â’r sefyllfa. Un rhan bach o’r llawr uchaf yn unig a ddioddefodd ddifrod tân difrifol ac uniongyrchol. Hyd yn oed yn yr ardal hon, roedd y llawsygrifau a llyfrau prin a oedd wedi’u cadw’n briodol mewn cistiau derw wedi goroesi heb unrhyw niwed. Roedd prynhawn Gwener, 26 Ebrill, yn ddiwrnod gwaith arferol gyda deunyddiau’n cael eu prosesu ar ddesgiau a throliau ar y llawr uchaf, ac fel y gellid disgwyl, roedd rhai colledion.’

Mae’r Llyfrgell wedi cysylltu â pherchnogion y deunyddiau a losgwyd yn gyfangwbl neu tu hwnt i adfer, a rhestrir y rhain isod.

Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol:

‘Hoffwn dalu teyrnged i staff y Llyfrgell am eu gwaith arwrol. Rydym yn drist iawn i glywed fod rhai eitemau wedi cael eu colli, ac rydym yn cydymdeimlo yn fawr gyda perchnogion yr eitemau hynny. Serch hynny, gyda ymdrech fawr gan y staff, rydym yn falch bod y nifer yn un bychan.  Mae hefyd yn destun balchder i mi fod y Llyfrgell wedi llwyddo i ail-agor i’r cyhoedd mor sydyn wedi’r tân ac i‘r sefydliad barhau i gynnig gwasanaeth heb-ei-ail i’n defnyddwyr a’n cwsmeriad wedi digwyddiad mor arswydus yn ein hanes.’

Rhestr o’r deunyddiau a losgwyd yn gyfangwbl neu tu hwnt i adfer yn nhân y Llyfrgell Genedlaethol ar 26 Ebrill 2013.

Papurau Pêl-droed Alun Evans  - llyfrau, effemera a chyfnodolion a oedd i'w dychwelyd at y rhoddwr wedi’u gwerthuso (12 blwch archifol)

Ychwanegiadau at gofysgrifau Capel Tabernacl (B), Caerfyrddin a ddaeth yn 2009-2010 a 2012 (3 blwch)

Negyddion gwydr o gymynrodd y Dr Iestyn Morgan Watkin (8 blwch)

Archif cwmni ACEN (4 blwch)

Papurau Hywel T. Moseley  (12 blwch)

Ychwanegiadau at bapurau y diweddar Athro Dafydd Jenkins, Aberystwyth ynghyd â llyfrau (3 blwch o lyfrau, 4 blwch o bapurau)

Ychwanegiadau at Bapurau Gwenffrwd Hughes a dderbyniwyd ers tua Ebrill 2011 (26 blwch)

Papurau y Parchedig Brynmor P. Jones (2 flwch)

Papurau Ann Ffrancon Jenkins (1 swp)

Ychwanegiadau at Archifau'r Methodistiaid Calfinaidd a dderbyniwyd yn 2013 (2 eitem)

Papurau Undeb Cymru a'r Byd (1 erthygl)

Cynlluniau pensaernïol o dŷ yng Nghaerdydd (Penhill) (1 eitem)

Ffotograffau 'Hasidic holiday' gan Chloe Dewe Matthews

Deunydd o'r Penderyn Historical Society (3 CD)

Papurau Plas Iolyn (1 ddogfen)

Papurau yn ymwneud â Phlaid Werdd Cymru (2 flwch)

Map amgáu Capel Iwan/Cenarth;Sixe bookes of politickes or civil doctrine; (1594) cyfieithiad Saesneg o destun Lladin Justus Lipsius gan William Jones yn y cloriau gwreiddiol ac mae'r cloriau hynny wedi'u llosgi (1 gyfrol)

Gwybodaeth bellach

Elin- Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC, 01970 632534 neu post@llgc.org.uk