Symud i'r prif gynnwys

Copi - lansio gwasanaeth newydd

Eleni, bydd stondin newydd i’w weld ar faes yr Eisteddfod, sef Copi. Bydd Copi yn cynnig cyfle i eisteddfodwyr brynu copi DVD o  gystadlaethau, seremonïau a chyngherddau’r Eisteddfod.

Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei gynnig gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, gyda chydweithrediad Eisteddfod Genedlaethol Cymru a BBC Cymru.

Yn ddiweddar, daeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gartref i’r casgliad cyflawn hwn o weithgareddau’r Eisteddfod – casgliad sy’n dyddio’n ôl i Eisteddfod Genedlaethol Môn 1999.

Nid yn unig y bydd modd prynu copiau o’r Eisteddfod eleni, ond bydd hefyd opsiwn i brynu copiau o eitemau o unrhyw Eisteddfod ers 1999. Bydd modd cysylltu â’r Archif Sgrin a Sain wedi wythnos yr Eisteddfod hefyd i archebu.

Dywedodd Dafydd Pritchard, Rheolwr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru:

“Mae hi yn fraint cael derbyn y casgliad yma i’r Archif a’u diogelu i’r dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r fenter newydd hon, ac i ddarparu’r gwasanaeth yma i Eisteddfodwyr eleni.”

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru:

“Mae'r Eisteddfod yn croesawu'r bartneriaeth gyda'r Llyfrgell Genedlaethol ac yn edrych ymlaen at gyfnod o gydweithio rhwng y ddau sefydliad.”

Bydd yr Archif hefyd yn gyfrifol am drwyddedu’r deunydd i gwmnioedd cynhyrchu sydd eisiau darlledu clipiau o Eisteddfodau. Ceir mwy o fanylion am y gwasanaeth yma, ynghyd â phrisiau ar wefan yr Archif Sgrin a Sain

Gwybodaeth Bellach

Anwen Pari Jones AGSSC 01970 632535 neu copi@llgc.org.uk