Cliciwch i gadw cof digidol y genedl
Bydd y rheoliadau a ddaw i rym ar 6 Ebrill yn galluogi i chwe phrif lyfrgell gasglu, cadw a darparu mynediad hirdymor at y ganran gynyddol o allbwn diwylliannol a deallusol y genedl sy’n ymddangos ar ffurf ddigidol - yn cynnwys blogiau, e-lyfrau a holl barth y we yn y DU.
O hyn ymlaen, bydd gan y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgelloedd y Bodley, Llyfrgell y Brifysgol Caergrawnt a Llyfrgell Coleg y Drindod yn Nulyn hawl i dderbyn copi o bob cyhoeddiad electronig yn y DU, ar yr un sail ag y maent wedi derbyn cyhoeddiadau print fel llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd am ganrifoedd o flynyddoedd.
Bydd y rheoliadau, y cyfeirir atynt fel adnau cyfreithiol, yn sicrhau y gall deunyddiau byrhoedlog fel gwefannau gael eu casglu a’u cadw am byth gan sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr y dyfodol. Bydd hyn yn darparu’r cofnod llawnaf posibl o fywyd a chymdeithas yn y DU yn yr 21ain ganrif ar gyfer pobl 50, 100, neu hyd yn oed 200 neu fwy o flynyddoedd yn y dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog dros Ddywilliant Ed Vaizey AS:
“Mae’r trefniadau ar gyfer adnau cyfreithiol yn parhau i fod o bwys mawr. Mae cynnal a chadw cofnod o’r holl ddeunydd printiedig yn sicrhau adnodd amhrisiadwy i ymchwilwyr presennol a’r rhai sydd i ddod. Felly, mae’n gwbl addas fod y trefniadau hirhoedlog yma wedi eu diweddaru ar gyfer anghenion yr unfed ganrif ar hugain i gynnwys cyhoeddiadau digidiol y deyrnas unedig am y tro cyntaf. Mae’r Cydbwyllgor Adnau Cyfreithiol wedi gweithio mewn modd llwyddiannus iawn i greu polisiau a phrosesau ymarferol fydd yn sicrhau bod cynnwys digidiol wedi ei archifo’n effeithiol a bod ein treftadaeth academaidd a llenyddol wedi ei gadw yn y ffurf iau angenrheidiol”
Sefydlwyd yr egwyddor o ymestyn adnau cyfreithiol y tu hwnt i brint yn Neddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 - mae’r rheoliadau presennol yn ei gweithredu mewn termau ymarferol, gan gwmpasu cyhoeddiadau electronaidd megis e-gyfnodolion ac e-lyfrau, fformatau all-lein (neu yn y llaw) fel CD-Rom a 4.8 miliwn o wefannau cychwynnol o barth gwe’r DU.
Bydd mynediad at ddeunyddiau di-brint, yn cynnwys gwefannau wedi eu harchifo, ar gael trwy gyfleusterau ystafelloedd darllen ar safleoedd pob un o’r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol. Er y bydd cwmpas yr hyn a fydd ar gael i ymchwilwyr wedi’i gyfyngu, bydd y llyfrgelloedd yn mynd ati’n raddol i gynyddu eu gallu i reoli deunydd adnau ar raddfa fawr, ei gadw a sicrhau mynediad ato yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
Erbyn diwedd eleni, bydd canlyniadau’r archifo byw cyntaf o wefannau .uk ar gael i ymchwilwyr, ynghyd â degau o filoedd o erthyglau e-gyfnodolion, e-lyfrau a deunyddiau eraill.
Datblygwyd y rheoliadau ar y cyd â’r Cydbwyllgor ar Adnau Cyfreithiol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol a gwahanol sectorau o’r diwydiant cyhoeddi. Maent yn sefydlu dull y cytunwyd arno i lyfrgelloedd ddatblygu system effeithiol ar gyfer archifo cyhoeddiadau digidol, gan osgoi baich afresymol i gyhoeddwyr a diogelu buddiannau’r deiliaid sy’n dal hawliau.
Yn ol Angela Mills, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor y Cyhoeddwyr Europeiadd, Cadeirydd Fforwm Cyhoeddwyr y DU ar Gynnwys a Chyd-Gadeirydd y Cydbwyllgor Adnau Cyfreithiol:
“At y dyfodol mae’n angenrheidiol diogelu a sicrhau argaeledd ein treftadaeth digidol ar gyfer ymchwil. Gan mai cyhoeddwyr oedd ymysg y cyntaf i gofleidio’r cyfleoedd a ddaw drwy gyhoeddi digidiol, ac iddynt adnabod manteision lledeunu tu hwnt i’r allanfeydd traddodiadol a photensial technoleg fel gyrrwr technolegol rydym yn croesawu estyniad y ddeddf i gynnwys deunyddiau digidol a chynhaeafu gwefannau”
“Ddeng mlynedd yn ôl, roedd perygl gwirioneddol i dwll du agor a llyncu ein treftadaeth ddigidol, gyda miliynau o dudalennau gwe, e-gyhoeddiadau ac eitemau di-brint eraill yn syrthio trwy graciau system a luniwyd yn bennaf i gadw inc a phapur,” meddai Roly Keating, Prif Weithredwr y Llyfrgell Brydeinig.
“Yn sgil Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol, yn 2003 sefydlwyd bod angen i adnau cyfreithiol ddatblygu mewn ffordd oedd yn adlewyrchu’r newid enfawr i ffurfiau digidol o gyhoeddi. Mae’r rheoliadau sydd bellach yn dod i rym yn gwneud adnau cyfreithiol digidol yn realiti, ac yn sicrhau bod y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol eu hunain yn gallu datblygu – gan gasglu, cadw a darparu mynediad hirdymor at y doreth o gynnwys diwylliannol a deallusol sy’n ymddangos ar-lein neu mewn fformatau digidol yn y llaw.”
Ychwanegodd Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Gyda dyfodiad adnau cyfreithiol electronaidd bydd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel y Llyfrgell Brydeinig, y gallu i gadw cofnod parhaol a chynhwysfawr o gof y wlad a’i phobol. Bydd y swmp enfawr o wybodaeth ddigidol a gesglir gennym yn ategu’r gwaith mawr a wneir gan y Llyfrgell ar hyn o bryd wrth gasglu deunydd digidol ol-dremol. Mae’r adnodd ‘Papurau Newydd Cymru Arlein’, sydd yn rhoi mynediad rhad ac am ddim i dros filiwn o dudalennau o bapurau newydd Cymru o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, yn enghraifft gwych o hyn. Ymhen ychydig flynyddoedd bydd nifer yr eitemau electronaidd fydd yn ein gofal yn llawer iawn yn fwy na chyfanswm yr holl ddeunydd print a gasglwyd gennym ers canrif. Bydd hyn, yn ei dro, yn creu adnodd amhrisiadwy i haneswyr y dyfodol”
Am fwy o wybodaeth
- Elwyn Williams elwyn.williams@llgc.org.uk 01970 632 818
- Elin-Haf post@llgc.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yw’r Llyfrgell Brydeinig; Llyfrgell Genedlaethol yr Alban; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llyfrgell y Bodley; Llyfrgell y Brifysgol Caergrawnt; Llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn
Mae’r Cydbwyllgor ar Adnau Cyfreithiol yn cynnwys y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol; Publishers Content Forum; Association of Learned and Professional Society Publishers; Association of Online Publishers; PPA Business Media Group (Data & Digital Publishing); International Association of Scientific, Technical & Medical Publishers; Newspaper Publishers Association; Newspaper Society; Professional Publishers Association; Publishers Association