Casglu a rhannu’r profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf
Oes gennych chi lythyron, ffotograffau, cardiau post neu eitemau eraill yn berchen i rywun a fu’n byw yn ystod y cyfnod neu i’r sawl oedd ar faes y gad? Dyma wahoddiad i chi rannu’r eitemau gyda phawb mewn cyfres o ddigwyddiadau ym mis Mawrth. Gobeithir casglu a chofnodi profiadau personol y Cymry a effeithiwyd gan y Rhyfel.
Effeithiodd y rhyfel ar bawb; rhai fu’n ymladd, a’r rhai a arhosodd adref. Os oes gennych chi eitemau sy’n berthnasol i unrhyw agwedd o fywyd yn ystod blynyddoedd y Rhyfel, plîs dewch â nhw i un o’r digwyddiadau er mwyn i ni eu digido a’u rhannu.
Mae prosiect cenedlaethol a arweinir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â llyfrgelloedd, casgliadau arbennig ac archifau Cymru yn gobeithio datgelu hanes cudd y Rhyfel Byd Cyntaf a sut y bu iddo effeithio ar Gymru oll, yr iaith a diwylliant. Bydd y casgliad digidol i’w weld ar-lein ac mae Casgliad y Werin Cymru, partner yn y prosiect, yn gwahodd y cyhoedd i fod yn rhan o’r prosiect trwy ddod â’u deunydd i un o gyfres o ddigwyddiadau lle y bydd staff ar gael i sganio llythyron, ffotograffau, tystysgrifau, cardiau post, dyddiaduron ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill.
Dywedodd Robert Phillips, Rheolwr y Prosiect:
‘Bydd gwahodd y cyhoedd i rannu deunydd yn galluogi’r prosiect weld safbwynt llawer ehangach, personol ac agos at y galon o brofiadau’r Cymry’n yn ystod y Rhyfel, gan gael mynediad at eitemau nad sydd ar gael mewn Archifau a llyfrgelloedd yn aml.’
Mae nifer o adrannau Casgliadau Arbennig prifysgolion Cymru yn rhan o’r prosiect a dywed Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe:
‘Rydym yn gobeithio dod o hyd i drysorau fydd o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd a bydd hefyd yn gymorth i’n hymchwil academaidd trwy gynyddu ein hymwybyddiaeth o’r profiad o fyw yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn nhermau gwerthfawrogi beth oedd profiad y Cymry yn ystod y Rhyfel, does dim i guro tystiolaeth ysgrifenedig gan bobl a fu’n byw trwy’r cyfnod. Yn ogystal â deunydd o gasgliadau teuluol, mae gen i ddiddordeb yng nghofnodion sefydliadau, fel capeli. Roedd ganddynt rôl ganolog mewn nifer o gymdeithasau yng Nghymru, a gall eu hadroddiadau blynyddol helpu ni i ddirnad agweddau’r sefydliadau yma, a’u harweinwyr, i’r Rhyfel.’
Bydd y deunydd yma ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru a dywedodd Carys Morgan, un o swyddogion y prosiect:
‘Mae casglu a rhannu’r eitemau yma, sy’n aml yn bersonol a theimladwy iawn, yn cyfrannu’n fawr at ein dealltwriaeth ni o’r Rhyfel a Chymru’n ystod y cyfnod hwn, ac mae’n ffordd bwysig o goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr. Gallwch gyfrannu i’r prosiect trwy ddod i’r digwyddiadau a chael eich deunydd wedi sganio gan ein staff. Neu, gallant gyfrannu eitemau neu atgofion trwy ymweld â gwefan Casgliad y Werin Cymru, www.casgliadywerincymru.co.uk, os nad ydych yn gallu cyrraedd un o’r digwyddiadau.’