Awduron Cymru: The Oxford Book of Welsh Verse a John Cowper
Haf 2013 - Chwefror 2014
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn arddangos gwaith John Cowper Powys a The Oxford Book of Welsh Verse mewn arddangosfa arbennig dros y misoedd nesaf.
Cawn gipolwg ar hanes cyhoeddi The Oxford Book of Welsh Verse a gyhoeddwyd hanner can mlynedd yn ôl, ynghyd â’r ymateb amrywiol a gafodd blodeugerdd nodedig Syr Thomas Parry; blodeugerdd sydd yn dal i gael ei defnyddio mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws Cymru.
Bydd yr arddangosfa arbennig hon yn dangos llawysgrifau gwreiddiol rhai o’r cerddi sy’n ymddangos yn The Oxford Book of Welsh Verse, llythyron yn dangos y berthynas rhwng Syr Thomas Parry â nifer o Gymry blaenllaw’r dydd, adolygiadau o’r gyfrol a pheth o hanes blodeugerddi eraill yn yr iaith Gymraeg.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn canolbwyntio ar waith John Cowper Powys. Yn awdur nofelau, barddoniaeth, gweithiau athronyddol a thraethodau, cyhoeddodd John Cowper Powys dros hanner cant o weithiau llenyddol yn ystod ei fywyd, ond cafodd ei ddisgrifio fel ffurf o Marmite llenyddol yn sgil ei ddychymyg a’i arddull ryfedd. Cawn ein cyflwyno i rai o lawysgrifau cynharaf nofelau enwocaf John Cowper Powys, Wolf Solent ac A Glastonbury Romance, a hefyd yn datgelu agweddau o’i fywyd personol trwy lythyron i’w gymar bywyd Phyllis Playter a llenorion megis E.E. Cummings a Henry Miller, ynghyd â’r dyddiaduron a gadwodd tra yn America a Gogledd Cymru. Dylanwadodd y cysylltiad â Chymru a oedd ganddo trwy deulu ei Dad a thrwy ei gyfnod yng Ngogledd Cymru yn drwm arno, ac yn yr arddangosfa hon gellir gweld sut y bu i hanes a chwedloniaeth Cymru effeithio ar ei waith llenyddol.
Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru a churadur yr arddangosfa:
‘Gydag oriel benodol i arddangos gweithiau llenyddol o gasgliadau'r Llyfrgell yma yn ffurf Byd y Llyfr, rydym yn falch iawn i allu arddangos gwaith John Cowper Powys, llenor rhyfeddol nad yw wedi cael y sylw haeddiannol hyd yma, ynghyd â detholiad unigryw o lawysgrifau beirdd yr Oxford Book of Welsh Verse. Gobeithiwn y bydd nifer o bobl yn manteisio ar y cyfle hwn i ymweld ag arddangosfa sy’n dod â chasgliadau amryfath y Llyfrgell i’r amlwg.’
Yn 1962 y cyhoeddwyd The Oxford Book of Welsh Verse, ond yn 1963 y cafwyd yr ymateb llymaf iddo. Yn ei gyflwyniad yn y Drwm ar y 17eg o Orffennaf bydd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn egluro pwy a berswadiodd Gwasg Clarendon i’w gyhoeddi, beth oedd egwyddorion y golygydd wrth ddewis y farddoniaeth, pwy a’i cynorthwyodd, a sut ymateb a fu iddo.
Ceir golwg newydd yma ar berthynas Thomas Parry a nifer o Gymry blaenllaw’r dydd, T.Ifor Rees, Saunders Lewis a Gwenallt yn eu plith.Yn dilyn ei ddarlith, bydd yr Athro Morgan yn lansio ei lyfr newydd Y Brenhinbren a gyhoeddwyd gan Gwasg Gomer. Llyfr a fydd yn trafod bywyd a gwaith Thomas Parry.
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf 01970 632 534 neu post@llgc.org.uk
Darlith Awr Ginio
Hannercamlwyddiant yr Oxford Book of Welsh Verse
Yr Athro Derec Llwyd Morgan
Dydd Mercher 17 Gorffennaf am 13:15
Mynediad am ddim trwy docyn
#awrginio