Symud i'r prif gynnwys

Trosglwyddo Archif ITV Cymru i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Heddiw cyhoeddodd ITV Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) a Llywodraeth Cymru bartneriaeth hanesyddol fydd yn arwain at drosglwyddo deunydd archif ffilm a theledu dwyieithog helaeth i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru y Llyfrgell yn Aberystwyth.

Hwyluswyd y trosglwyddiad trwy gymorth ariannol o £1.27 miliwn gan Lywodraeth Cymru

Mae archif ITV yn un o’r archifau teledu mwyaf yn Ewrop ac mae'n cynnwys tua 250,000 o eitemau gan gynnwys caniau o ffilm, tapiau a fformatau eraill.

Mae'n cynrychioli hanes diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol unigryw Cymru yn ystod y 60 mlynedd diwethaf ac mae’n cynnwys rhai o ddelweddau teledu mwyaf eiconig yr oes.

Maent yn cynnwys trychineb Aberfan yn 1966, arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969, taith fuddugoliaethus y Llewod i Seland Newydd yn 1971, streic y glowyr yn 1984 ac agoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999.

Maent yn cynnwys nifer o enwogion fel Richard Burton, Ivor Emmanuel, Siân Phillips, Syr Geraint Evans a gwahanol gyflwynwyr oedd yn enwog yn eu dydd.

Bydd casgliad o ddeunydd Cymraeg a Saesneg sydd yn werthfawr iawn i’r genedl yn cael ei drosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol lle bydd yn cael ei gadw yn ogystal â bod ar gael i’r cyhoedd ei weld.

Dan y cytundeb, bydd gan ITV Wales hefyd fynediad llawn at yr archif ar gyfer darllediadau yn y dyfodol a bydd yn gallu defnyddio’r deunydd i bwrpas masnachol unrhyw adeg. Bydd ffilmiau digidol a grëir o’r deunyddiau gwreiddiol ar gael i ITV Cymru.

Bydd Owain Meredith, archifydd ITV Cymru, yn gweithio gydag LlGC i hwyluso’r broses o gael mynediad at y deunydd a pharatoi cynnwys ar gyfer cynhyrchu rhaglenni (yn cynnwys newyddion) a gwerthu clipiau ar ran ITV.

Meddai Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni yn ITV Cymru: “Nid gor-ddweud fyddai disgrifio archif ffilm a theledu ITV Cymru fel trysor cudd o ddeunydd darlledu.

“Bydd y cytundeb ag LlGC yn golygu bod yr adnodd arbennig hwn mewn perchnogaeth gyhoeddus er budd y genedl ac ar yr un pryd caniateir i ITV fanteisio i’r eithaf ar botensial masnachol a chreadigol yr archif.”

Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, “Archif ITV yw un o’r ychwanegiadau pwysicaf i gasgliadau’r Llyfrgell ers blynyddoedd. Nid gorliwio fyddai dweud ei fod yn crynhoi hanes Cymru yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Bydd Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn awr, yn ogystal a chynnal gwasanaeth i ITV, yn sicrhau fod yr archif ar gael at bwrpas addysgol ac at ddefnydd y cyhoedd.

Meddai Huw Lewis y Gweinidog Treftadaeth: “Mae nifer o’r archifau hyn yn dystiolaeth fyw o hanes Cymru ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut mae Cymru wedi datblygu yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae sicrhau ein bod yn cadw’r archif yn hollbwysig i ddiogelu ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol fel y gall cenedlaethau’r dyfodol weld sut mae digwyddiadau bach a mawr wedi helpu i ddylanwadu ar bwy ydym heddiw.”

Rhaglenni pwysig, darllediadau arloesol

Mae cannoedd o raglenni pwysig a darllediadau arloesol yn rhan o’r archif. Maent yn cynnwys y gyflwynwraig newyddion gyntaf, y rhaglen gylchgrawn gyntaf ar y teledu, rhaglenni dogfennol uchelgeisiol a rhaglenni cerddoriaeth, dramâu gydag actorion enwog, sioeau arloesol i blant a rhaglenni hwyr y nos na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.

Mae’r archif hefyd yn cynnwys log dyddiol o’r holl brif straeon newyddion a wnaed gan ITV Cymru a’i ragflaenwyr ers Ionawr 14, 1958 – y  diwrnod y dechreuodd TWW ddarlledu fel gwasanaeth teledu masnachol cyntaf y wlad.

Ers hynny mae ITV Cymru wedi ei drawsnewid droeon o TWW, WWN, HTV (sef Harlech yn wreiddiol), yna cyfnod o brynu cwmni ITV gan United News & Media, Granada (am gyfnod byr), Carlton hyd at ITV ccc presennol.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau sy’n cwmpasu pum degawd o deledu masnachol yng Nghymru:

1960au

  • In the News – rhaglen materion cyfoes arloesol.
  • Mr and Mrs a Sion a Sian – lansio sioe gwis i gyplau.
  • Movie Magazine – ffilmiau cyntaf ar deledu’r DU gydag enwogion fel Warren Beatty, Clint Eastwood a Deborah Kerr.
  • Croeso Christine – Cymraeg  i ddysgwyr gyda Christine Godwin


1970au

  • Divorce His, Divorce Hers – cyfres fer arbennig gydag enwogion fel Richard Burton ac Elizabeth Taylor
  • Miri Mawr – rhaglen blant arloesol yn y Gymraeg.
  • British Lions 1971 – deunydd  prin mewn lliw o’r daith rygbi fuddugoliaethus.
  • Arthur of the Britons – Epig o’r Oesoedd Tywyll gydag Oliver Tobias fel y brenin Celtaidd


1980au

  • A Dragon Has Two Tongues – hanes Cymru yng nghwmni Wynford Vaughan Thomas a’r Athro Gwyn Alf Thomas
  • Ballroom – drama am streic y glowyr yn 1984 gyda Glyn Houston.
  • Treasure Island – Brian Blessed mewn addasiad o’r clasur i blant.
  • Wales This Week a Y Byd Ar Bedwar – lansio dwy raglen materion cyfoes fu’n darlledu am gyfnod hir


1990au

  • Barry Welsh is Coming – comedi  gyda John Sparks fel y cyflwynydd anobeithiol.
  • Nightclub – teledu  trwy’r nos yn dechrau yn y DU gyda chlasuron fel Prisoner Cell Block H a Married With Children.
  • Telethon - rhaglen elusennol ffonio i mewn gyntaf ar y teledu.
  • Your Century – croncilo’r 20fed ganrif wrth edrych ymlaen at y Mileniwm gyda Nicola Haywood-Thomas.


2000

  • Nuts & Bolts – cyfres ddrama afaelgar am y Cymoedd.
  • Never to be Forgotten – enwogion   o Gymru’n edrych yn ôl trwy’r archifau
  • The Wales Show – sgrysiau, diwylliant a cherddoriaeth.

Manylion Pellach

ITV Cymru
Huw Rossiter: 08 44 88 10375; huw.rossiter@itv.com

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Swyddfa’r Wasg: 01970 632354 post@llgc.org.uk

Llywodraeth Cymru
Anna Miller: 02920 89 84 90; Anna.Miller@wales.gsi.gov.uk