Portread o seren Rygbi yn cael cartref yn y Llyfrgell Genedlaethol
Bydd portread o’r seren rygbi Shane Williams yn ymuno â chasgliad celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Paentiwyd ei bortread gan yr artist enwog, David Griffiths. Mae David wedi portreadu rhai o wynebau mwyaf amlwg Prydain dros ei yrfa deugain mlynedd gan gynnwys tri chyn-Lywydd o’r Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Shane Williams (35), wedi mwynhau gyrfa hir a llwyddiannus fel asgellwr i dîm Cymru ar Gweilch ac ef yw prif sgoriwr ceisiadau Cymru. Cafodd ei ddewis fel Chwaraewr y flwyddyn IRB yn 2008, a chafodd ei ddisgrifio fel un o asgellwyr mwyaf cyffrous y byd. Bu iddo ymddeol o rygbi rhyngwladol yn gynharach yn y flwyddyn. Yn ystod Eisteddfod yr Urdd, Bro Morgannwg 2012 cafodd ei urddo i’r wisg las am ei gyfraniad i fywyd cenedlaethol.
Magwyd yr artist David Griffiths ym Mhwllheli ac fe’i hyfforddwyd yn ysgol gelf Slade yn Llundain. Daeth i’r amlwg am ei bortread o Dywysog Cymru yn derbyn rhyddid dinas Caerdydd ym mlwyddyn ei arwisgiad yn 1969. Ers hynny mae wedi darlunio gwleidyddion, clerigwyr a mabolgampwyr amlwg gan gynnwys Enoch Powell, Archesgob Cymru Barry Morgan a’r chwaraewr rygbi, Barry John. Dadorchuddiwyd dau bortread pwysig arall o’i waith yn ddiweddar; portreadau o gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan. Cedwir un yn adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd a’r llall yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Meddai David sydd bellach yn byw yn ardal y Rhâth yng Nghaerdydd:
‘Mae gen i ddiddordeb mawr mewn rhagoriaeth ac mae Shane, fel nifer o’r wynebau eraill rwyf wedi eu peintio wedi rhagori yn ei faes – mae’n bersonoliaeth chwaraeon eiconic’
Peintiwyd y portread mewn olew ar gynfas 40 x 30 modfedd dros gyfnod o 6 mis. Mae’n dangos Shane Williams yn gwisgo ei git rygbi ar gyfer ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr. Yn y llun hefyd gwelir ei ‘bye bye boots’.
Meddai Paul Joyner, Pennaeth Derbyn Archifau a Chelf Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Mae gan y portread yma o Shane gan David Griffiths bresenoldeb. Mae’n gwneud i chwi deimlo fel bod Shane newydd gerdded i mewn i’r ystafell a’i fod yn barod i chwarae gêm arall i Gymru.'
Gwybodaeth bellach:Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.ukDavid Griffiths029 20486866dg@david-griffiths.co.uk