Penodiadau i Gorff Ymgynghorol Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Syr Deian Hopkin, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn falch o fod wedi gallu cyhoeddi heddiw fod pedwar aelod newydd wedi’u hapwyntio i wasanaethu ar Gorff Ymgynghorol y Llyfrgell Genedlaethol. Y pedwar yw:
Yr Athro Hazel Walford Davies
Athro Prifysgol wedi ymddeol, ysgolhaig, awdur a chyn aelod o Gyngor a Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaehthol Cymru. Mae’r Athro newydd gael ei hethol yn Gymrawd Anrhydeddus gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol.
Andras Iago
Myfyriwr ymchwil Phd ym Mhifysgol Cymru Drindod Dewi Sant. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Hanes a Chymraeg yn 2006; mae Andras yn un o ddarllenwyr ac ymchwilwyr selocaf y Llyfrgell Genedlaethol.
Dr Matthew Jarvis
Ysgolhaig ac arbenigwr mewn barddoniaeth Cymru yn Saesneg. Ef yw’r ‘Anthony Dyson Fellow in Poetry’ yn Ysgol Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dr Ioan Matthews
Prf Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol .
Y Corff Ymgynghorol
Mae’r Corff Ymgynghorol yn tynnu ynghyd unigolion a sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb yng ngwaith a chenhadaeth y Llyfrgell, er mwyn ei chynghori ar ddatblygiad ei strategaeth a’i gwasanaeth. Prif swyddogaethau’r Corff yw:
- rhoi i sefydliadau perthnasol ac unigolion yng Nghymru’r modd i fynegi eu barn ar ddatblygiad y Llyfrgell
- cynnig cyngor arbenigol yn seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd mewn meysydd perthnasol i weithgareddau’r Llyfrgell
- gweithredu fel llysgenhadon a hyrwyddwyr y Llyfrgell a’i hamcanion.
Penodwyd y pedwar aelod newydd drwy gystadleuaeth agored a byddant yn aelodau o’r Corff am bedair blynedd, yn y lle cyntaf.
Gwybodaeth Bellach
Elin Hâf, Swyddfa'r Wasg LLGC: 01970 632534 post@llgc.org.uk