Symud i'r prif gynnwys

Llyfr Gweddi Gyffredin yn dathlu 350 mlynedd

Bydd Llyfr Gweddi Gyffredin yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth i ddathlu 350 mlynedd.

Dechreuodd hanes Llyfr Gweddi Gyffredin yn ystod teyrnasiad y Brenin Harri VIII gyda drafft preifat gwasanaethau Boreol Weddi a Hwyrol Weddi gan Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint.  Ymddangosodd yr argraffiadau cyhoeddiedig cyntaf ym 1549 yn ystod teyrnasiad mab Harri, Edward VI.  Dilynodd nifer o argraffiadau eraill tan y Rhyfel Cartref, pan waharddwyd y llyfr gweddi yn y Weriniaeth o tua 1641 ymlaen.

Ar ôl Adferiad y Brenin Siarl II, sefydlwyd Comisiwn Brenhinol i drafod dod â’r llyfr gweddi yn ei ôl.  Arweiniodd hyn at Lyfr Gweddi Gyffredin diwygiedig 1662.  Er i argraffiadau eraill gael eu cyhoeddi yn ystod y canrifoedd dilynol, llyfr gweddi 1662 oedd yr un a ddefnyddiwyd yn rheolaidd yn Eglwys Lloegr tan ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Ym 1563, yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I, pasiodd y Senedd ddeddf i gyfieithu’r Beibl a’r llyfr gweddi i Gymraeg, a arweiniodd at y llyfr gweddi Cymraeg cyntaf ym 1567.  Sefydlwyd Llyfr Gweddi Gyffredin i’w ddefnyddio yn Eglwys Lloegr (a oedd yn cynnwys eglwysi Anglicanaidd yng Nghymru hyd at y Datgysylltiad ym 1920) gan Ddeddf Unffurfiad 1662, a ddarparodd hefyd ar gyfer ei gyfieithiad i’r Gymraeg.  Roedd esgobion y pedair esgobaeth yng Nghymru ac Esgob Henffordd i gytuno ar gywirdeb y cyfieithiad Cymraeg.  Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg diffiniol llyfr gweddi 1662 ym 1664.

Bydd y Llyfr Gweddi Gyffredin yn cael ei arddangos yma tan 23 Chwefror 2013.