Symud i'r prif gynnwys

Her Casgliadau Digidol - Seminar

Fe’ch gwahoddir i seminar a gynhelir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Sustaining Value: The Challenge of Digital Collections
Nancy Maron, Ithaka S+R

2.00pm, Dydd Iau 26 Ebrill
Ystafell Seminar, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ers sawl blwyddyn bellach bu tîm ymchwil a strategaeth Ithaka S+R yn astudio’r her mae arweinwyr prosiectau cynnwys digidol yn eu hwynebu wedi iddynt greu a lansio’r prosiect. Gwelir fod rhai’n mynd i drybini wedi i’r grant ddod i ben gan ystyried bod yn hunan-gynhaliol ond yna’n sylwi mor anodd yw canfod cefnogaeth. Bydd eraill yn rhydd o drafferthion ariannol ond methu adeiladu cynulleidfa ddigonol a chyflenwi’r effaith a obeithiwyd.
Bydd y cyflwyniad yma yn rhannu’r darganfyddiadau o’n waith diweddar, gan gynnwys prosiect ‘Case Studies in Sustainability’ a ariannwyd gan JISC. Cawn weld pa wersi a ddysgwyd o’r profiadau 12 prosiect (gan gynnwys 6 yn y DU). Byddwn hefyd yn rhannu’r datblygiadau diweddaraf yn ein gwaith dan sylw, ‘Strategies of Host Institution Support’.

Dolenni

Gwybodaeth Bellach:Yr Athro Lorna M. Hughes Cadair Casgliadau Digidol Prifysgol Cymru lmh@llgc.org.uk  01970 632499