Symud i'r prif gynnwys

Gwobr i Geraint – Llyfr ar Owain Myfyr

Cyhoeddwyd mai un o staff y Llyfrgell, Dr Geraint Phillips,  yw enillydd Gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths 2011, am ei gyfrol Dyn Heb ei Gyffelyb yn y Byd: Owain Myfyr a’i Gysylltiadau Llenyddol (2010)  Dyfernir y wobr gan Brifysgol Cymru i bwy bynnag a fydd, yn ystod y tair blynedd blaenorol, wedi cynhyrchu’r gwaith gorau yn Gymraeg ar lenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymreig.

Mae Geraint yn Lyfrgellydd Llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Ymunodd â staff y Llyfrgell ym 1989. Ei lyfr yw’r astudiaeth lawn gyntaf o fywyd Owain Myfyr, o Lanfihangel Glyn Myfyr yn Sir Ddinbych. Roedd Owain yn grwynwr llewyrchus, noddwr llên, ac arweinydd bywyd diwylliannol y Cymry yn Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r ganrif ddilynol.  Mae’r gyfrol wedi ei chanmol am ei chyfuniad o ysgolheictod treiddgar ac ysgrifennu gafaelgar. 

Yn ôl yr awdur a’r golygydd, Vaughan Hughes:
   
‘Mae hon yn chwip o stori sy’n cael ei hadrodd yn dda’. 

Ac yn ôl Peredur Lynch (Barn): ‘Cyflawnodd Dr Phillips ei waith gyda graen a medrusrwydd  . . . Yr hyn sy’n rhoi gwir dyndra i’r gyfrol hon yw gwaith gwych yr awdur yn olrhain y berthynas rhwng Owain Myfyr ac Iolo Morganwg’.

Am wybodaeth bellach

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk