Symud i'r prif gynnwys

Gwasanaeth Ewropeaidd Ar-lein i Ymchwilwyr

Mae gan ymchwilwyr byd-eang bellach fynediad digymar i gasgliadau llyfrgelloedd cenedlaethol a phrifysgol o 26 gwlad Ewropeaidd yn dilyn lansiad porth The European Library.

Gan gynnig un pwynt mynediad i dros 200 filiwn o ffynonellau safon uchel, yn ogystal â gwasanaeth chwilio gwych, mae The European Library yn galluogi ymchwilwyr i ddod o hyd, defnyddio a rhannu ystod eang o ddeunydd (gan gynnwys cynnwys digidol ac aml-gyfrwng) yn rhwydd ac yn gyflym.

Lansir y gwasanaeth yn swyddogol ar 41fed Cynhadledd Flynyddol LIBER yn Tartu, Estonia o flaen cynulleidfa o dros 320 gyfranwyr o bob cwr o Ewrop. Bydd Llyfrgell Genedlaethol Estonia a Phrifysgol Tartu ill dau yn cymryd rhan yn y digwyddiad rhyng-Ewropeaidd bwysig hon.

‘Rydym yn falch iawn y lansir y gwasanaeth newydd gwerthfawr yma ym Mhrifysgol Tartu yn ystod cynhadledd LIBER,’ meddai Ermel Malle, Cyfarwyddwr Llyfrgell Prifysgol Tartu. ‘Rydym hefyd wrth ein bodd y bydd ein casgliadau’n haws i’w canfod i gynulleidfa ryngwladol nac erioed o’r blaen oherwydd ein bod yn rhan o Lyfrgell Ewrop.’

Croesawodd Janne Andresoo, Cyfarwyddwr Llyfrgell Genedlaethol Estonia , y gwasanaeth newydd gan ddweud y byddai’n adnodd academaidd gwerthfawr.

‘Mae lansiad yr European Library newydd yn golygu cyfleoedd newydd i ymchwilwyr ar draws y byd. Am y tro cyntaf, gellir chwilio casgliadau llyfrgelloedd prifysgolion gyda chasgliadau prifysgolion cenedlaethol. Golyga hyn y gall hyd yn oed mass critigol o ddeunydd o safon uchel cael eu traws-ymchwilio ar yr un pryd.’

O lyfrau prin a llawysgrifau i ddelweddau a fideo, mae’r European Library yn cynnig mynediad i dros 10 miliwn eitem ddigidol. Mae yna hefyd 24 miliwn tudalen o gynnwys tecst-llawn ar bob pwnc yn ogystal ag archifau bywgraffiadol.

Oherwydd ei ymrwymiad yn project Europeana Libraries mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o 19 o lyfrgelloedd ymchwil blaenllaw Ewrop sydd wedi ei phenodi yn gyfranwyr newydd i’r Llyfrgell Ewropeaidd. O ganlyniad i’w ymrwymiad yn y project bydd dros 250,000 o wrthrychau digidol o gasgliadau'r Llyfrgell, yn cynnwys ffotograffau, printiau topograffig a chylchgronau o’r 19eg ganrif, ar gael trwy wefan newydd y Llyfrgell Ewropeaidd.

‘Rydym yn gweithio tuag at lyfrgell yfory,’ meddai Erland Kolding Nielsen, Cadair Pwyllgor Rheoli canolog Rheoli Llyfrgell a Phrif Gyfarwyddwr Llyfrgell Frenhinol Copenhagen.

‘Mae cymunedau ymchwil yn dibynnu arnom ni ac rydym yn bodoli i’w gwasanaethu hwy felly fe ail-ddyluniwyd porth yr European Library yn gyfan gwbl er mwyn ateb eu hanghenion.’‘Er mwyn macsimeiddio’r cyfleuon ar gyfer mynediad i ymchwilwyr, bydd cynnwys hefyd am ddim ar gyfer ailddefnyddio gan rwydweithiau a gwefannau drwy API Feeds. Mae  canlyniadau newydd ar gyfer ymchwil yn ddi-ben-draw,’ meddai Louise Edwards, Cyfarwyddwraig The European Library.

Meddai Andrew Green, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:“Mae lansiad gwefan newydd y Llyfrgell Ewropeaidd yn ddigwyddiad cyffrous sydd yn cynrychioli datblygiad pwysig arall yn sut mae ymchwilwyr yn cael mynediad i ffynonellau digidol o lyfrgelloedd cenedlaethol ac ymchwil Ewrop. Mae’r lansiad hefyd gydag arwyddocâd arbennig i Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth iddi gael ei henwi fel cyfrannwr am y tro cyntaf i'r Llyfrgell Ewropeaidd. Fel sefydliad rydym yn falch o fod medru ymestyn mynediad i rhai o’n brif gasgliadau digidol i’r llwyfan Ewropeaidd”

Nodiadau i’r Golygydd
Gwybodaeth Bellach:

Aubéry Escande, Rheolwr Cyfathrebu a Golygyddol ar gyfer The European Library e-bost: Aubery.Escande@kb.nl ffôn: +31 703 140 8241.

1. Am y Lansiad Lansir yr European Library newydd yng Nghanolfan Gynhadledd Dorpat yn Tartu (http://www.utlib.ee/liber2012/index.php?id=prog_soc#wed) ar 27 Mehefin am 20:00, yn ystod 41 Gynhadledd LIBER. 

2. Am The European Library (www.theeuropeanlibrary.org) Sefydlwyd yr European Library yn wreiddiol yn 2005 fel gwasanaeth i CENL (The Conference of European National Libraries). Mae’n cynnig mynediad drwy chwilio ffederal i gasgliadau llyfrgelloedd cenedlaethol ar draws Ewrop. Mae’r European Library newydd yn ganlyniad partneriaeth fentrus rhwng CENL a thri chorff llyfrgellyddol pwysig arall; LIBER, CERL  a Sefydliad Ewrop (Europeana Foundation).Mae’n cynnig mynediad sydyn a hawdd drwy’r mynegai canolog i gasgliadau llyfrgelloedd Ewrop ac amrywiaeth o lyfrgelloedd prifysgolion.