Gwaith yr arlunydd Jac Jones yn cael ei arddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol
Bydd casgliad hyfryd o waith Jac Jones, yr arlunydd a’r awdur llyfrau plant o Fôn ac enillydd diweddar Gwobr Mary Vaughan Jones yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth rhwng 8 Rhagfyr 2012 a 22 Mehefin 2013.
Yn ystod ei yrfa, mae Jac Jones wedi darlunio dros bedwar cant o lyfrau plant. Ymhlith y cymeriadau mae wedi eu creu dros y blynyddoedd y mae Mabon a Mabli cymeriadau’r Mudiad Meithrin a Twmff y Gath yn y cylchgrawn plant WCW a’i Ffrindiau. Mae Jac Jones hefyd yn adnabyddus am greu’r cymeriad Jac y Jwc yn 1977 fel rhan o gyfres bytholwyrdd Sali Mali.
Meddai Nia Lewis, Curadur yr Arddangosfa:
‘Mae cyfraniad Jac Jones dros y blynyddoedd i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru wedi bod yn aruthrol. Mae'n fraint cael arddangos ei waith yn y Llyfrgell Genedlaethol, a gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i weld detholiad o'r gwaith arbennig hwn drwy ymweld â'r arddangosfa.’
Yn ogystal â darlunio llyfrau gan awduron eraill, mae Jac Jones yn awdur llyfrau plant ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae eisoes wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei waith yn darlunio Ben y Garddwr a Storïau Eraill yn 1989, Lleuad yn Olau yn 1990, a Stori Branwen yn 1998.
Er bod pob llyfr mae wedi gweithio arno wedi bod yn bwysig iddo, mae cyfrannu at ambell deitl mwy uchelgeisiol wedi bod yn brofiad arbennig iawn. Ymhlith y teitlau yma mae Chwedlau Grimm, addasiad Dyddgu Owen, a Drama’r Nadolig gan Gwyn Thomas. Enillodd darn o’r gwaith celf a greodd ar gyfer Lleuad yn Olau le yn Premi de Catalonia, cyfeirlyfr o waith arlunwyr plant y byd.
Derbyniodd Jac Jones Dlws Mary Vaughan Jones 2012. Cyflwynir y tlws arbennig hwn bob tair blynedd i berson a wnaeth gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd.
Meddai’r arlunydd Jac Jones:
‘Mae hi’n fraint ac anrhydedd i mi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi trefnu arddangosfa o fy ngwaith. Ble gwell i arddangos fy ngwaith nag yn un o’r sefydliadau’r hynny sydd yn gonglfaen i safon ac sy’n hyrwyddo prosiectau treftadaeth yng Nghymru.’
Mae’r arddangosfa wedi ei lleoli yn ardal yr Hafan o’r Llyfrgell, sy’n cael ei defnyddio yn bennaf gan y Gwasanaeth Addysg.
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2002 a’i brif ddyletswydd yw cyflwyno'r Llyfrgell a'r casgliad i ymwelwyr o bob oedran sy'n rhan o'r gymuned ddysgu ffurfiol. Gwnant hyn drwy gynnig mynediad at y casgliad a dehongliad o eitemau i ddisgyblion ysgol, myfyrwyr, dysgwyr gydol oes a theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, ac adnoddau dysgu i rieni, athrawon a darlithwyr.
Gwybodaeth Bellach
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk