Symud i'r prif gynnwys

Eira Ddoe – tywydd eithafol

Oes gennych chi, eich ffrindiau neu’ch teulu atgofion o dywydd eithafol yng Nghymru? Gaeaf caled neu fwyn? Haf cynnes, gwlyb neu chwil-boeth? Cynhaeaf siomedig neu ffrwythlon? Mellt a tharanau bythgofiadwy? Sioe Frenhinol gwlyb neu grasboeth? Os oes, hoffai prosiect newydd a chyffrous clywed gennych.

Mae Eira Ddoe yn Fforwm Tywydd Eithafol newydd i Gymru er mwyn darganfod a rhannu atgofion o dywydd eithafol. Archwilia’r prosiect hwn, sydd wedi’i ariannu gan raglen Landscape and Environment yr AHRC, y modd y gellir datgelu ac adrodd profiadau’r gorffennol, rhai hanesyddol a mwy diweddar fel ei gilydd, er mwyn deall ac ymdopi â ffenomena a ystyrir fwyfwy yn arwyddion o newid hinsawdd. Mae’n ymchwilio dulliau’r Cymry o gofio a mytholegu digwyddiadau tywydd eithafol, a hynny, yn y pen draw, er mwyn dysgu pa rybuddion a chyfleoedd sy’n codi.

Ymysg partneriaid y prosiect mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Prifysgol Aberystwyth ar Met Office.

Meddai Cerys Jones, Ymchwilydd y prosiect:

‘Mae’r prosiect cyffrous hwn yn ymchwilio i adroddiadau ynghylch tywydd eithafol fel y‘u cofnodwyd yn ffynonellau Llyfrgell Genedlaethol Cymru megis cyfnodolion, dyddiaduron, llenyddiaeth a darluniau.’

‘Mae diddordeb mawr gen i mewn clywed atgofion pobl o dywydd eithafol yng Nghymru, felly pa ffordd well o wneud hyn na thrwy grwydro maes Sioe Llanelwedd yn holi’r ymwelwyr’

Arweiniodd prosiect Eira Ddoe at ddigido dros 3,500 o dudalennau o ddeunydd llawysgrif a phrint o gasgliadau archifol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gwybodaeth bellach

Eira Ddoe
Cerys Jones, Prifysgol Cymru, cerys.jones@cymru.ac.uk
01970 631 028

Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 post@llgc.org.uk