Dylunwyr Ifanc Aberystwyth yn Hyrwyddo Atyniadau'r Ardal
Mae dylunwyr graffeg galluog sy’n mynychu ysgolion yng ngogledd Ceredigion wedi derbyn yr her o ddylunio cyfres o bamffledi i hyrwyddo llefydd arbennig i ymweld â hwy yn Aberystwyth a’r cyffiniau, mewn cystadleuaeth a drefnwyd ar y cyd gan Glwb Rotari Aberystwyth a Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Sir Ceredigion.
Roedd y gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion ysgolion cynradd ardal Aberystwyth a myfyrwyr blynyddoedd 7, 8 a 9 yn ysgolion Penglais a Phenweddig.
Mae’r Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am dwristiaeth, wedi canmol ansawdd y dyluniad:
“Mae’r pedwar sydd wedi ennill gwobrau yn llawn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith. Maent wedi ymchwilio’n drylwyr i’r gwahanol lefydd, ac mae’n amlwg bod llygad dda gan bob un ohonynt.”
Roedd Geraint Thomas o Glwb Rotari Aberystwyth, trefnydd y gystadleuaeth, hefyd yn cymeradwyo safon y gystadleuaeth:
“Cawsom ddegau o gynigion yn amlygu amrywiaeth helaeth o atyniadau. Roedd ôl meddwl a gwaith caled ar bob un ohonynt. Roedd gan fy nghyd-feirniaid a minnau benderfyniadau anodd i’w gwneud wrth ddethol yr enillwyr.” Yr enillwyr oedd: Ysgolion cynradd: Gwobr gyntaf: Haf Evans, Ysgol Penllwyn, Capel Bangor - Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ysgolion uwchradd: Gwobr gyntaf: Betsan Siencyn, Ysgol Penweddig - Castell Aberystwyth. Ail wobr: Sioned Morris, Ysgol Penweddig - Rheilffordd Cwm Rheidol. Trydedd wobr: Dewi Davies, Ysgol Penweddig - Bwlch Nant yr Arian.
Gwybodaeth Bellach
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 neu post@llgc.org.uk