Symud i'r prif gynnwys

Dilyn Y Fflam

Mae chwaraeon yn ein diffinio. Rydym yn genedl fach, ond mae hanes ein llwyddiannau – mewn amrywiaeth eang o chwaraeon ar y llwyfan rhyngwladol – yn ysbrydoledig. Rydym wir yn gallu cystadlu â’r goreuon.

Lynn Davies CBE

Caiff arddangosfa Olympaidd bwysig ei lansio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 31 Mawrth 2012 gan y paraolympydd, Simon Richardson – enillydd dwy fedal aur paralympaidd am seiclo. Bydd yr arddangosfa yn rhedeg hyd at 16 Mehefin 2012.

Bydd yr arddangosfa yn mynd â’r ymwelydd ar daith ddiddorol o darddiad y Gemau Olympaidd yng Ngwlad Groeg (776bc), drwy eu dirywiad fwy na mil o flynyddoedd yn ddiweddarach, i rôl bwysig Prydain yn eu hailsefydlu yn Athen yn 1896, yn ogystal â’r nifer o adegau pwysig (yn arwrol a thrasig) yn eu hanes ers hynny.

Themâu’r Arddangosfa

1. dim ond dynion: yn y Gemau Hynafol yn yr Henfyd ac ym mlynyddoedd cynnar y Gemau Olympaidd Modern, roedd menywod wedi’u gwahardd rhag cymryd rhan (a hyd yn oed rhag bod yn bresennol o gwbl yn y Gemau Hynafol):

Dim ond un dasg sydd i ferched, sef coroni’r enillydd â garlant.

Barwn de Coubertin (1863-1937), sefydlwr y Gemau Olympaidd Modern, yn siarad yn 1902.

2. a oes heddwch?: ystyriai Adolf Hitler chwaraeon fel “ffordd o chwynnu’r gwan, yr Iddewon, a phobl annymunol eraill”, gan wahardd y rhain a phobl “israddol” eraill o’i Gemau Natsïaidd yn 1936. Yn anffodus i’r Fuehrer, fodd bynnag, roedd y ffaith fod Jesse Owens (o’r UDA oedd bryd hynny yn dal yn gwahaniaethu ar sail lliw) wedi cystadlu ac wedi ennill pedair medal aur wedi chwalu’r rhith Natsïaidd o ‘oruchafiaeth yr Aryaid’:

Dylai’r Americanwyr fod â chywilydd ohonyn nhw eu hunain yn gadael i Negroaid ennill eu medalau. Fyddwn i fy hun byth hyd yn oed yn ysgwyd llaw ag un ohonynt.

Adolf Hitler

Wnes i ddim dod i Berlin i ysgwyd llaw, beth bynnag.

Jesse Owens

3. y fflam Olympaidd: fe wnaeth Prometheus ddwyn y fflam oddi wrth y duwiau ac fe’i cosbwyd am hyn drwy gael ei gadwyno i graig a chael eryr yn pigo a bwyta’i ymysgaroedd a’i du mewn, dim ond iddynt dyfu yn ôl dros nos a’r artaith yn cael ei hailadrodd drannoeth a thrannoeth ... hyd dragwyddoldeb.

4. paralympiaid: Byddwn wedi ennill ein plwyf pan fydd y cyfryngau yn beirniadu ein perfformiadau ac yn negyddol amdanom yn yr un modd ag y maent i chwaraewyr eraill yn hytrach nag yn ein canmol yn gyson am fod yn ‘ddewr’. Mae paralympiaid yn bobl sy’n cyflawni ac yn llwyddo ac nid ydynt o reidrwydd yn dymuno cael eu portreadu bob munud fel rhai sydd wedi ‘trechu helbulon’.”

Y Fonesig Tanni Grey-Thompson

5. Cymru: cofio peidio anghofio! Er bod Cymru yn ddim ond 5% o boblogaeth y Deyrnas Unedig – gyda llai na hanner poblogaeth Llundain – eto enillodd bron i 11% o fedalau Prydain yng Ngemau Olympaidd Beijing a bron i 14% o’r medalau Paralympaidd! Yng Ngemau diweddaraf y Gymanwlad yn Delhi yn 2010, am bob pen o’r boblogaeth, Cymru unwaith eto a berfformiodd orau o bell ffordd o holl wledydd y Deyrnas Unedig!

6. Cymru – cenedl Olympaidd?: Er bod nifer o wledydd sydd â llai o boblogaeth na Chymru yn cymryd rhan yn y Gemau o dan eu henwau eu hunain – rhai gyda llai na thraean o’n poblogaeth ni – mae’n fater o gryn drafodaeth a ddylai’r genedl Gymreig gael gyrru timoedd Olympaidd neu Baralympaidd dan ei baner ei hun. Byddai angen, yn y lle cyntaf, i’r IOC gydnabod ein statws fel cenedl ar wahân, ac, er bod sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1998 a phleidlais Mawrth 2011 i estyn y pwerau yn ein symud ychydig gamau i’r cyfeiriad hwnnw, mae’n dal i barhau i fod yn freuddwyd bell, neu fel y byddai rhai yn ei ddweud efallai, yn hunllef:

7. bara a gemau: Mae’r Gemau wedi newid yn anferthol ers eu gwreiddiau yng ngwlad Groeg yr henfyd. Maent wedi tyfu mewn maint i fod yr ŵyl fwyaf yn y byd. Yn y Gemau Olympaidd Modern cyntaf ym 1896, dim ond 14 o genhedloedd a 211 o athletwyr a gystadlodd (ac roedd y rhan fwyaf o’r rheiny o wlad Groeg ei hun oedd yn cynnal y Gemau). Yng Ngemau Beijing yn ddiweddar, roedd 10,500 o gystadleuwyr, yn dod o 204 gwlad, wedi’u gwylio gan bron i 4 biliwn o bobl ym mhob cwr o’r byd.

Dilyn y Fflam

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Aberystwyth

31 Mawrth – 16 Mehefin 2012

DyF a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth Prydain sy'n gadael etifeddiaeth o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 drwy ariannu syniadau a thalent leol i feithrin creadigrwydd ledled Prydain.

Am wybodaeth bellach

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk