Symud i'r prif gynnwys

Cymhorthfa Eiddo Deallusol i’w chynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol

Fis yma bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cymhorthfa eiddo deallusol am ddim i egin entrepreneuriaid a chwmnïau lleol sy’n awyddus i ddysgu mwy am sut i adnabod, amddiffyn a manteisio ar eu Hawliau Eiddo Deallusol.


Bydd cymorthfeydd misol, y cyntaf ar 10 Mai, yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Y Bont, man cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth. Trefnir hwy gan Ganolfan Allgymorth PATLIB Cymru, menter i hwyluso mynediad at wybodaeth ar eiddo deallusol a lansiwyd ar 26 Ebrill.
Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu:

  • Gwasanaeth ymholiadau am ddim   
  • Mynediad am ddim i gronfeydd data ar-lein  
  • Llenyddiaeth ar wahanol agweddau o Eiddo Deallusol
  • Arweiniad ar chwilio patentau ar gyfer rheini nad ydynt yn siwr ble i ddechrau

Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru:‘Mae Eiddo Deallusol yn gymhleth a chostus ond yn bwysig iawn i arloesed a thyfiant yng Nghymru. Bydd busnesau nawr yn gallu troi at y gwasanaeth hwn ar gyfer cymorth a chanllaw ac edrychwn ymlaen at gynnal y gymhorthfa Eiddo Deallusol cyntaf yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 10 Mai.’Ychwanegodd Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth:‘Mae hwn yn brosiect pwysig a bydd yn hybu syniadau Cymreig gan sicrhau bod busnesau a dyfeiswyr yn cael canllaw i’w cefnogi nhw.‘Drwy gydweithio gall y Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru gynnig gwasanaeth gwerthfawr yn y canolbarth. Rwy’n gobeithio nawr y bydd unigolion a busnesau yn manteisio ar y gwasanaeth hwn drwy droi at y gefnogaeth a’r canllaw sydd ar gael iddynt.’Caiff cymorthfeydd pellach eu cynnal yn y Bont ar 7 Mehefin ac yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 5 Gorffennaf.Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu Cymorthfa Eiddo Deallusol, gallwch ffonio 03000 6 03000 i gadw eich lle.