Symud i'r prif gynnwys

Cyhoeddi Llyfr o drysorau’r Llyfrgell mewn llyfr tanysgrifiol

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a’r Llyfrgell Genedlaethol yn annog darllenwyr Cymru sydd â diddordeb yng nghynnwys amgueddfeydd Prydain a chasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn benodol i gefnogi cyhoeddiad newydd; 26Treasures: THE BOOK erbyn Dydd Gŵyl Dewi.

Cost y llyfr fydd £10 a dyma’r casgliad cyntaf o ‘sestudes’ - ffurf lenyddol newydd o 62 gair a ddatblygwyd yn arbennig ar gyfer y prosiectau sy’n sail i’r llyfr. Bydd yn cynnwys cyfraniadau o brosiectau tebyg yn amgueddfa’r  Victoria and Albert yn Llundain, Amgueddfa Ulster ac Amgueddfa Genedlaethol yr Alban yn ogystal â sestudau gan lenorion a beirdd amlwg fel Gillian Clarke, Eurig Salisbury, Andrew Motion ac Alexander McCall Smith. 

Mae’r bennod o Gymru yn cynnwys dau ddeg chwe darn gydag 13 yn y Gymraeg ac 13 yn y Saesneg, pob un wedi ei hysbrydoli gan gasgliad y Llyfrgell. Cyfieithwyd pob saethid i’r iaith arall, ond gan gadw at y rheol fod pob cyfieithiad hefyd i fod yn union 62 gair.

Cydlynwyd prosiect Cymru gan grŵp cydweithredol awduron 26 mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Parwyd y llenorion ar hap gyda’i gwrthrychau - o ffilm o Lloyd George yn cwrdd â Hitler i Lyfr Mawr y Plant - a rhoddwyd ond chwe wythnos i gynnig ymateb.

Bwriad y prosiect yw dweud y stori tu cefn y creiriau ac ysbrydoli ymwelwyr i’r Llyfrgell (neu ymwelwyr i’r casgliadau ar-lein) i weld y trysorau mewn golau newydd.

Arddangoswyd y darnau ysgrifenedig yn Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y llynedd fel rhan o Her y Cyfieithwyr ar stondin Tŷ’r Cyfieithwyr a noddwyd gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Cyflwynwyd Ffon Farddol i Hywel Meilir Griffiths am ei gyfieithiad o waith Lin Sagovsky, ‘Old Banknotes’. Roedd yn her arbennig gan fod gwaith Lin – a ysbrydolwyd gan y crair a gyflwynwyd iddi ar hap, arian papur Cymreig o’r 19eg ganrif – yn defnyddio slogannau hysbysebu.

Mae’r llyfr yn cynnwys ffotograffau trawiadol o’r archifau ac fe’i hargreffir drwy ‘Unbound’ – y wefan ar gyfer cyhoeddi-drwy-danysgrifiad. Y dyddiad cau ar gyfer y rheini sydd am danysgrifio yw Dydd Gŵyl Dewi eleni.

Os codir digon o nawdd drwy Unbound fe gyhoeddir y llyfr a chyhoeddir enwau’r rhai sydd wedi tanysgrifio arno. Cynigir danteithion eraill i’r rhai sy’n gwneud tanysgrifiad haelach gan gynnwys aelodaeth o 26, taith gyda’r awduron i weld y trysorau yn un o’r archifau a gweithdy hanner diwrnod ar ysgrifennu creadigol.

I brynu’r llyfr, ewch at Unbound www.unbound.co.uk/books/26-treasures <http://www.unbound.co.uk/books/26-treasures>. I ddarllen y farddoniaeth, y cyfieithiadau a pheth o’r storiau cefndir am eu creu, ewch i wefan y 26 Treasures. www.26treasures.com <http://www.26treasures.com>.

Am wybodaeth bellach:Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg, LlGC: 01970 632902 sion.jobbins@llgc.org.uk