Anrheg Nadolig Gwych i'r Llyfrgell
Mae staff y Llyfrgell Genedlaethol yn dathlu’n gynnar eleni, gyda’r cyhoeddiad bod cyfarwyddwr y ffilm eiconig Under Milk Wood (1972) wedi penderfynu trosglwyddo’r ffilm i ofal yr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain ynghyd â chasgliad ardderchog o ddeunyddiau atodol. Fe gyhoeddodd Andrew Sinclair y newyddion neithiwr mewn dangosiad o’r ffilm yn sinema Chapter, Caerdydd, ble dangoswyd hefyd rai o’r ffotograffau, sgriptiau ac arteffactau gwreiddiol yn ymwneud â chynhyrchu’r ffilm – oll yn rhan o gasgliad fydd hefyd yn cael cartref yn y Llyfrgell ac ar gael i’w mwynhau a’u hastudio.
Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘ Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i’r Llyfrgell, a gallai’r amseru ddim bod yn well. Ar ben y ffaith bod y ffilm yn 40 oed eleni, mae paratoadau eisoes ar y gweill ar gyfer dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014. Mae nifer o gasgliadau yn ymwneud ar bardd wedi 'dod adref' atom, er budd y genedl, dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae potensial amlwg i’r casgliad cyfoethog hwn ychwanegu dimensiwn unigryw ac apelgar i’r dathliadau.
‘Rydym yn hynod ddiolchgar i Dr Sinclair am ei haelioni a’i benderfyniad mai’r casgliad cenedlaethol yw’r cartref priodol ar gyfer y pecyn hynod hwn.’
Mae’r Llyfrgell hefyd yn croesawu’r penderfyniad hirben i sefydlu Ymddiriedolaeth i ymdrin â hawliau’r ffilm er mwyn sicrhau bod pob incwm yn mynd tuag at gynnal prosiectau diwylliannol ac addysgol yn ymwneud â hi.
Meddai Andrew Green:
‘Mae budd cyhoeddus o’r math yma yn eithriadol o bwysig o safbwynt y Llyfrgell, sydd yn diogelu ei thrysorau nid er ei fwyn ei hun ond er mwyn i bobl gael eu gweld a’u defnyddio. Mae hefyd yn cyd-daro yn dda iawn â chynlluniau cyffrous sydd ar y gweill gan yr Archif Sgrin a Sain i gydweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol ar sail y casgliad ffilm – felly edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio gyda’r Milkwood Trust a’i gynrychiolaeth o BAFTA Cymru a’r BBC - dwi’n siŵr y bydd y berthynas yma’n sbarduno prosiectau creadigol all ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr ffilm ac ati.’
Gogoniant y rhodd hael hon yw bod y pecyn i gyd yma, yn adnodd cyflawn, cyfoethog i bob math o ddefnyddiwr. Nid dim ond y ffilm, ond hefyd hanes gwneud y ffilm yn ardal Abergwaun ar ffurf lluniau, llythyrau, sgriptiau ac ati - ac ôl llaw yr actorion eithriadol hyn - Burton, Taylor, Phillips, Ryan Davies ac O’Toole a chymaint o’r cast enwog – yn llythrennol i’w weld ar y defnyddiau.
Edrychwn ymlaen y fawr i groesawu Captain Cat, Polly Garter, Mrs Ogmore Pritchard a’u cyfeillion oll i’w cartref newydd yn Aberystwyth!
Gwybodaeth bellach
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 6325354 post@llgc.org.uk
Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru 01970 632828