Aberystwyth yn ysbrydoliaeth i recordiad delyn fyw
Aberystwyth a’i phobl yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer cyngerdd yn y dref ar 20 Mehefin gan y telynor gwerin sy’n hannu o’r dref, Carwyn Tywyn.
Fe ddechreuodd Carwyn Tywyn (Carwyn Fowler gynt) ei gyrfa cerddorol fel bysgiwr yn Aberystwyth, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Penweddig yn Aberystwyth. Mae bellach mae wedi recordio un CD (‘Alawon o’r Stryd’) a bydd yn recordio ei perfformiad am ddim yn awditoriwm y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 20 Mehefin a’i ryddhau fel CD ‘byw’.
‘Yn ogystal â chanu’r alawon traddodiadol Gymreig, rwyf wedi gwneud rhywfaint o waith cyfansoddi dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwyf o hyd yn ddychwelyd i Aberystwyth fel awen i gyfansoddi,’ meddai Carwyn Tywyn, sydd yn canu telyn deires Gymreig yn ogystal â thelyn Geltaidd fach.
‘Rhai blynyddoedd yn ôl, wnes i cyfansoddi cyfres o ‘alawon Penweddig’, yn seiliedig ar atgofion o’r hen safle. Eleni, rwyf wedi cyfansoddi cân o’r enw 'Awen ac Aber’, ac rwy’n bwriadu mae dyna fydd teitl y CD byw. Rwyf hefyd am ganu fersiwn o un o ganeuon Ysbryd Chouchen, grŵp Cymraeg oedd wedi ei lleoli yn Neuadd Pantycelyn yn ystod y 1990au. Felly bydd y perfformiad mewn ffordd yn ryw fath o lyfr lloffion o atgofion am Aberystwyth,’ meddai Carwyn.
Er mai ag Aberystwyth y cysylltir Carwyn, magwyd ef yng Nghaerlŷr (Leicester) nes ei fod yn 9 oed cyn symud yn 1984 i Aberystwyth. Daw ei wraig, Kathryn, hefyd o ardal Aberystwyth, o bentref Bow Street. Maent bellach yn byw ym Mhorth Tywyn ger Llanelli. Mae’n dad i Heledd sy’n 4 oed a babi arall ar y ffordd a bydd yn perfformio alawon a gyfansoddodd ar ei cyfer yn y gig pnawn Mercher 20 Mehefin.
'Ar ben y cyfan, rwyf yn cydweithio gyda’r ffotograffydd o Aberystwyth, Keith Morris, er mwyn darparu lluniau o ansawdd – ac o Aberystwyth – ar gyfer y CD'.
Gig Carwyn Tywyn
1.15 p.m. dydd Mercher 20 Mehefin 2012
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Am wybodaeth bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk