Symud i'r prif gynnwys

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal dwy ganolfan ddata sy’n storio ar hyn o bryd dros 1.5PB o gynnwys digidol.  Mae hyn yn cynnwys 3.5 miliwn o ddelweddau digidol megis papurau newydd a chylchgronnau, ynghyd â recordiadau ffilm a sain o gasgliad hawlfraint digidol y DU. Mae dros miliwn o ddefnyddwyr ar lein a mynediad i’n casgliadau a’n gwasanaethau trwy 30 o rhyngwynebau ar-lein yn amrywio o systemau dilysiad unigol  i wefannau efo data sylweddol.


Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni neu ebostiwch swyddi@llyfrgell.cymru