Symud i'r prif gynnwys

Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu waliau allanol y prif adeilad gan gynnwys adeiladau mewnlenwi. Yn bennaf, roedd hyn yn cynnwys ailosod gorchuddion to, mewn rhai achosion ailosod ffenestri metel a choed ac atgyweirio ac ailosod carreg Portland. Roedd hefyd yn cynnwys adnewyddu eang y tu mewn i rannau helaeth o'r adeilad, gan gynnwys adnewyddu'r pibellau gwresogi cyfan a'r system drydanol yn y Bloc Gweinyddol.

Rhestr waith

  • Gosod sgaffaldiau uchder llawn dros dro i berimedr allanol yr adeilad.
  • Gwaith to: tynnu a gosod Llechi Cymreig newydd ar y Bloc Gweinyddol, ochr ddeheuol yr adeilad, Ystafell Ddarllen y Gogledd a Llawysgrifau.
  • Tynnu ac adnewyddu toeau plwm y Bloc Gweinyddol, ochr ddeheuol yr adeilad, Ystafell Ddarllen y Gogledd, Llawysgrifau ac ystafell Herbert Morgan.
  • Tynnu a gosod plwm a llechi newydd i'r to mansard, cromenni, cwteri a chornisiau.
  • Gosod to mwyn wedi'i inswleiddio newydd i'r ystafell reprograffeg a'r Ystafell Addysg.
  • Tynnu a gosod to newydd yn adeilad y storfa allanol.
  • Tynnu a gosod toeau copr yn y Prif Gyntedd, y grisiau a'r uwch-gyntedd
  • Gosod carreg newydd ac atgyweirio carreg Portland.
  • Mecanyddol a Thrydanol: adnewyddu'r holl bibellau gwresogi a'r system yn y Bloc Gweinyddol.
  • Adnewyddu ffenestri y Bloc Gweinyddol, ochr ddeheuol yr adeilad, Ystafell Ddarllen y Gogledd a Llawysgrifau yn llawn.
  • Tynnu a gosod 4 to pyramid gwydr newydd.
  • Adnewydd Oriel Gregynog yn llawn.

Mae'r adrannau isod yn cynnwys mwy na 50 delwedd o'r gwaith adnewyddu. Darperir yr holl ddelweddau trwy garedigrwydd Iwan Thomas, Pensaernïaeth DarntonB3 a Dylan Richards, RL Davies a’i Fab Cyf, a Mark Stevens a Scott Waby, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Glanhau ac adfer y gwaith carreg a'r cornisiau

Glanhau'r gwaith carreg i baratoi ar gyfer gwaith adnewyddu, tynnu ac adnewyddu balconïau, adfer maen enw y Llyfrgell, trwsio erydiad blociau cornis.(13 delwedd)

Gweithio ar y balconïau, y ffenestri a'r plwm

Atgyweirio erydiad y balconïau dur, adfer ffenestri pren a dur, a gwaith plwm newydd. (10 delwedd)

Y Prif Gyntedd ac Oriel Gregynog

Cael gwared ar y plinthiau marmor sy'n gorchuddio'r pibellau ar ymylon y Prif Gyntedd, tynnu y lloriau eu hunain, gosod pibellau gwresogi newydd, gosod plinthau marmor newydd, tynnu rhaniadau ac adnewyddu Oriel Gregynog yn llwyr. (11 delwedd)

Toeau llechi, copr a gwydr

Tynnu yr hen lechi a gosod llechi Cymreig newydd ar do Oriel Gregynog a rhannau eraill o'r adeilad, tynnu ac ailosod toeau copr ac adnewyddu toeau gwydr. (10 delwedd)

Swyddfeydd, ystafelloedd a draeniau copr

Adnewyddu Ystafell y Cyngor, gosod pibellau gwresogi a cheblau trydanol newydd yn y Bloc Gweinyddol, tynnu'r hen ddraeniau copr, a chynhyrchu a gosod draeniau newydd (9 delwedd)