Mae datblygiad Llyfrgell Glan-yr-afon hefyd yn cynnwys caffi, hwb cynghori, llyfrgell gyhoeddus a chanolfan gwybodaeth i dwristiaid. Yn yr oriel ceir rhaglen thematig o arddangosfeydd sy'n newid bob 6 mis, ac arddangosfa barhaol am hanes, diwylliant a chwedlau Sir Benfro. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yn Llyfrgell Glan-yr-afon ochr yn ochr â'r arddangosfeydd, a rhaglen o weithgareddau addysg.
Mae modd gweld arddangosfeydd o rhai o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol mewn oriel yn Hwlffordd sydd yn rhan o bartneriaeth cyffrous rhwng y Llyfrgell a Chyngor Sir Penfro.
Sir Benfro: Ddoe a Heddiw
Arddangosfa barhaol o drysorau'r Llyfrgell Genedlaethol sy'n ymwneud â sir Benfro a'i phobl.
Parhaol
Glan-yr-afon, Hwlffordd
A OES HEDDWCH? Traddodiad yr Eisteddfod
Dewch i ddarganfod hanes prif ŵyl ddiwylliannol Cymru yn A Oes Heddwch?: Traddodiad yr Eisteddfod. O’r cyfeiriad cynharaf yn y llawysgrif ganoloesol Brut y Tywysogion i’r dathliad cenedlaethol sydd ohoni heddiw, mae’r arddangosfa hon yn dod â thrysorau o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol ynghyd i adrodd peth o hanes yr eisteddfod.
Glan-yr-afon, Hwlffordd