Wythnos i heddiw, bydd Pobol y Cwm yn dathlu 50 mlynedd o fod ar yr awyr ers darlledu’r bennod gyntaf ar 16eg o Hydref 1974. Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar y BBC cyn ei throsglwyddo i S4C yn dilyn lansiad y sianel ym 1982. Ymysg ei chasgliad o sgriptiau’r BBC, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ffodus o gael y bennod gyntaf oll o Pobol y Cwm, sydd hefyd yn cynnwys rhestr o’r criw a’r cymeriadau, dyddiad ac amser recordio, ac amseroedd ymarfer.
Yn ogystal â’r bennod gyntaf ei hun, mae’r casgliad yn cynnwys y sgript ymarfer, gan roi cyfle i’r darllenydd brofi’r bennod fel y gallai fod wedi bod. Gweler fod nifer o newidiadau wedi digwydd i’r sgript, rhai’n sylweddol a rhai’n llai felly. Yr prif newid yw teitl y rhaglen ei hun, gan nad ‘Pobol y Cwm’ oedd ei theitl gwreiddiol ond ‘Pentrefelin’. Y dyddiad darlledu gwreiddiol a fwriadwyd ar gyfer y bennod gyntaf oedd Hydref 15fed; felly, pe na bai’r teitl wedi newid byddem heddiw’n dathlu hannercanmlwyddiant ‘Pentrefelin’ ddiwrnod ynghynt.
Gwahaniaethau eraill rhwng y ddwy sgript yw’r newidiadau a wnaethpwyd i enwau cymeriadau (a’u sillafiad), gan gynnwys ‘Harri Parri’ a ‘Maggie Mathias’, a oedd yn wreiddiol yn ‘Arthur’ a ‘Magi Evans’. Maent yn ymddangos yn yr olygfa gyntaf, sydd eto’n cynnwys rhai gwahaniaethau i’r hyn a ddarlledwyd.
“Bore da, Maggie Mathias” oedd y geiriau cyntaf a lefarwyd ar y rhaglen, gan Harri Parri. Yn y sgript ymarfer, y geiriau cyntaf oedd “Bore da Magi Evans”, a lefarwyd gan Arthur.
Gallwch ddod i’r Llyfrgell i weld yr holl newidiadau eich hunain a chymharu’r ddwy sgript ochr yn ochr. Nid oedd yn arferol i ddarlledwyr bryd hynny gadw deunydd archifol, felly nid yw pennod orffenedig gyntaf Pobol y Cwm yng nghasgliad y Llyfrgell. Mae hyn yn gwneud y sgriptiau cynnar hyn yn fwy pwysig a gwerthfawr.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu o fewn y Llyfrgell i ddathlu’r hannercanmlwyddiant:
Ar 16eg Hydref, bydd arddangosfa gyfyngedig arbennig yn Ystafell Summers a fydd yn dangos deunydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell sy’n ymwneud â Pobol y Cwm. Mae’r rhain yn cynnwys llyfrau, ffotograffau a deunydd clyweledol, yn ogystal â’r sgriptiau cynnar a ddisgrifir yma, ymhlith eitemau eraill.
Yna, ar 29ain Hydref, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnal ‘Noson yng nghwmni Pobol y Cwm – Ddoe a Heddiw’, gydag aelodau o’r cast o’r gorffennol a’r presennol.
Bydd digwyddiadau hefyd yn Archif Ddarlledu Genedlaethol Cymru ym mis Ionawr 2025, felly cadwch lygad ar y wybodaeth ddiweddaraf!
Categori: Erthygl