Os wnaethoch chi wylio ail bennod Cyfrinachau’r Llyfrgell nos Fawrth ar S4C, mi fyddech chi wedi clywed hanes Augusta Hall neu Arglwyddes Llanofer. Ond pwy yn union oedd y fenyw arbennig yma?
Augusta Hall, oedd un o noddwyr pwysicaf diwylliant gwerin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig ym meysydd cerddoriaeth, dawns a gwisg draddodiadol.
Yn wreiddiol o Sir Fynwy, cymerodd ddiddordeb mewn materion Cymreig drwy gydol ei hoes er nad oedd hi’n siarad Cymraeg yn rhugl ei hun. Trwy ei chyfeillgarwch â Thomas Price (Carnhuanawc, 1787-1848) daeth yn aelod blaenllaw o gymdeithas ddiwylliannol a gwlatgarol y Fenni, sef y Cymreigyddion. Dan y ffug enw Gwenynen Gwent yn 1834, enillodd wobr eisteddfod Caerdydd am draethawd ar yr iaith Gymraeg a'r wisg Gymreig a dyma ddechrau’r defnydd o’r ffug enw y soniwyd amdani ar y rhaglen.
Hi hefyd ysgrifennodd y llyfr coginio cyntaf yn y Gymraeg, sef y ‘Good cookery illustrated. And recipes communicated by the Welsh hermit of the cell of St. Gover, with various remarks on many things past and present’ a gyhoeddwyd yn 1867. Cafodd y y gwaith ei strwythuro ar ffurf deialog, rhwng teithiwr yn ymweld â Llanofer a meudwy o’r ardal.
Ond heb os, mae’n cael ei hadnabodyn bennaf am lunio delwedd y wisg draddodiadol. Yn ei thraethawd buddugol yn 1834, dadleuodd y dylai merched Cymru wisgo dillad traddodiadol wedi ei wneud o wlanen Gymreig.
Ei rheswm am ddadlau hyn oedd bod y wisg yn addas ar gyfer tywydd pob tymor ac yn diogelu merched rhag y ddarfodedigaeth!
Bu mor ddiwyd yn ceisio hybu ei delwedd o'r wisg nes iddi orfodi ei morynion i'w gwisgo wrth eu gwaith ym mhlas Llanofer. Yn y gyfrol Dull-wisgoedd Cymreig ceir cyfres o 17 o ddyfrlliwiau gan A. Cadwaladr a gomisiynwyd ganddi o wisgoedd merched rhai o siroedd Cymru. Mae'n debyg i'r gyfrol hon ddylanwadu ar arlunwyr eraill megis Alexander F. Rolfe (fl.1839-fl. 1873) a H. Jones (fl. 1824- fl.1849) i greu delweddau tebyg.
Os nad ydych wedi gweld y bennod eto, gallwch ei gwylio ar BBC iPlayer.