Llyfrgell Llanrwst oedd y lleoliad ar gyfer digwyddiad Patagonia a Gwilym Bowen Rhys lle dangoswyd clipiau o Archif Ddarlledu Cymru yn ymwneud â'r Wladfa.
Yn arwain y noson roedd Aled Rees o Deithiau Patagonia, a gyflwynodd detholiad o glipiau archif o Batagonia, yn dyddio o 1955 hyd heddiw. Yn dilyn hyn, cafodd y gynulleidfa’r cyfle i bori’r Archif ei hun yng Nghornel Clip y Llyfrgell, cyn i’r cerddor gwerin Gwilym Bowen Rhys gloi’r noson gyda pherfformiad byw arbennig a siarad am ei raglen ddiweddar am Batagonia ar S4C.
Mae casgliad anferth o raglenni S4C, ITV Cymru Wales a BBC Cymru Wales bellach ar gael i'w gweld yn eich Cornel Clip lleol. Gallwch ddarganfod eu lleoliadau fan yma.
Categori: Newyddion