Bydd gweithgareddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni yn dathlu celf, cerddoriaeth a’r gymuned leol gyda rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau, ar y stondin ac ar draws y Maes. Trwy ffilmiau, sgyrsiau a digwyddiad cymunedol, bydd ymwelwyr yn mwynhau dysgu am a dathlu ardal Wrecsam.
Trwy gydol yr Ŵyl, bydd y digwyddiadau yma’n cael eu cynnal ar y stondin:
Dydd Llun, 2.30pm: Archif Sain: Gwarchod a Rhannu Cerddoriaeth Cymru
Dydd Mercher, 11.00am: ‘Yn ôl i Lanfrothen: golwg newydd ar Jones v Roberts (1888) (achos claddu Llanfrothen)’ gan Keith Bush KC (honoris causa), Cymrawd Cyfraith Cymru, Prifysgol Caerdydd
Dydd Mercher, 1.30pm: Te Parti Prosiect Cymunedau Wrecsam
Dydd Iau, 12.30pm: Cyfrinachau’r Llyfrgell: Wrecsam gyda Dr Cymraeg
Dydd Gwener, 1.30pm: Dim Celf Gymreig: Edrych nôl ar yr arddangosfa gyda Peter Lord
Os ydych chi’n chwilio am anrheg neu drît i chi’ch hun, bydd sawl eitem newydd sbon ar gael yn ein siop, gan gynnwys dillad, printiau ac eitemau eraill sydd wedi’u hysbrydoli gan yr arddangosfa Dim Celf Gymreig.
Mae rhywbeth i bawb ar y stondin, felly galwch draw i’n gweld!
Amserlen digwyddiadau ar stondin y Llyfrgell
Amserlen digwyddiadau Llyfrgell ar Faes yr Eisteddfod
Categori: Newyddion
