Symud i'r prif gynnwys
Beth sydd mewn enw?

24 Medi 2025

Cyflwynodd Sian Phillips ei harchif bersonol i'r Llyfrgell yn 2019, ac yn ystod ffilmio’r rhaglen deledu ‘Cyfrinachau’r Llyfrgell’ yn ddiweddar cafodd gyfle i gael golwg arno. Wrth edrych drwy’r bocsys, roedd yn cael ei hatgoffa o ddigwyddiadau a pherfformiadau arwyddocaol, a ffigyrau hanesyddol a wnaeth chwarae rhan bwysig yn ei bywyd. Mae’r archif yn mynd yn ôl i'w hieuenctid ac yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'i haddysg gynnar, cyfnod Prifysgol a RADA,  a’i gyrfa lwyddiannus ym myd y theatr a ffilm. Fei cofir yn arbennig am ei pherfformiad o Livia yn y gyfres deledu BBC ‘I, Claudius’ yn 1976 , rhan y cafodd wobr BAFTA amdani. 

Er taw fel Siân Phillips mae’n cael ei hadnabod yn broffesiynol, ei henw llawn yw Dame Jane Elizabeth Ailwên Phillips, ac mae na olion yn yr archif o’i henwau cynnar. Dangosais sgript iddi o un o’r dramâu cynharaf a fu’n actio ynddo yn ysgol Gynradd Rhos yn 1938 pan oedd yn 5 mlwydd oed. ‘Mair a’r wyau’ oedd enw’r ddrama, ac fel ‘Ailwen’ roedd yn cael ei hadnabod bryd hynny. Erbyn 1948 pan oedd yn perfformio mewn cyngerdd Nadolig  yn yr ‘Upper Cwmtwrch Welfare Hall’ yn bymtheg oed , ei henw ar raglen y gyngerdd oedd ‘Jane Phillips, Cwmllynfell, triple National winner’. Mae’n debyg taw athro Cymraeg Siân Phillips sef ‘Eic’ Davies a gynigiodd yr enw Cymraeg iddi hi. 

Syndod i mi oedd ei chysylltiad agos gyda’r dramodydd a’r gwleidydd Saunders Lewis, a chlywed am ei hatgofion am ddyn fu’n ddylanwad enfawr arni ar ddechrau ei gyrfa. Dangosais iddi raglen perfformiad cyntaf ‘Gymerwch chi sigarét’ wedi ei lofnodi gan y cast. Ysgrifennodd Saunders Lewis y ddrama ar ei chyfer, ac roedd y perfformiad yma yn ddigwyddiad o bwys, gyda adolygiadau gwych iddi yn y wasg. Cyn gadael cyflwynodd Sian Philips rodd i ni sef ei chopi personol hi o ddrama ‘Blodeuwedd’ gan Saunders Lewis, 1948 wedi'i lofnodi gan Saunders Lewis ac Éamon de Valera. Trysor arall i'w ychwanegu at archif Sian Phillips yn y Llyfrgell Genedlaethol. 

Gallwch wylio rhaglen Cyfrinachau’r Llyfrgell ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Nia Mai Daniel
Pennaeth Casgliadau Unigryw 
 

Categorïau: Erthygl, Newyddion