Symud i'r prif gynnwys
Easter bonnet competition

9 Mai 2025

Mewn partneriaeth unigryw rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ITV Cymru Wales, mae datblygiad wedi’i gyhoeddi i osod miloedd o glipiau o archifau ITV Cymru ar gael am ddim ar-lein. Yn flaenorol, roedd mynediad i’r casgliad helaeth hwn sy’n rhan o Archif Ddarlledu Cymru wedi’i gyfyngu i wylio ar y safle yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac wyth ‘Cornel Clip’ ar draws y wlad, wedi’u lleoli’n bennaf mewn llyfrgelloedd ac archifdai.

Nawr, mewn ymdrech i agor yr adnodd cyfoethog hwn i gynulleidfa ehangach, mae casgliad sylweddol o glipiau ar gael am ddim ar-lein—yn cynnig mynediad digynsail i ddegawdau o hanes a diwylliant Cymru o’ch cartref, neu ddyfais. Eisoes mae 4,900 o glipiau i fyny ar-lein a phob mis bydd clipiau newydd yn cael eu hychwanegu – y bwriad yw gosod rhagor o gasgliad ITV Cymru wrth iddo gael ei ddigido gan dimau digido Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'r clipiau'n cynnwys ystod eang o straeon, o newyddion lleol i ddigwyddiadau rhyngwladol, gan ddechrau ym 1958. Mae llawer o'r clipiau'n cynnwys cipolwg tu ôl i'r llenni a ffilm heb ei olygu, gan gynnig edrychiad prin ar gyd-destun a chymeriad yr oes. Mae rhoi mynediad i’r cynnwys hwn yn gam mawr ymlaen o ran cadw a rhannu stori Cymru drwy lens un o’i darlledwyr mwyaf arwyddocaol.

Dywedodd Owain Meredith, Archifydd ITV Cymru Wales: “Mae ITV Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth agos â’r gynulleidfa Gymreig erioed. Rydym wedi ffilmio digwyddiadau a phobl gyda chaniatâd a chefnogaeth y Cymry, mae archif ITV Cymru yn perthyn i Gymru ac mae’n newyddion rhyfeddol bod gan bawb bellach fynediad i’r archif, a’u hanes eu hunain, yn rhydd o gyfyngiadau ac o’u cartrefi eu hunain”.

Ers 2022, mae tîm digideiddio’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio i gadw a digideiddio miloedd o oriau o ddeunydd sydd wedi’u storio ar ffilm 16mm a thapiau fideo 1 modfedd. Mae'r broses yn cynnwys gwaith cymhleth: atgyweirio a sganio ffilm fregus, graddio lliw, cysoni sain, a chatalogio pob darn gyda metadata manwl. Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi chwarae rhan hollbwysig, gan greu disgrifiadau i hwyluso’r broses o chwilio’r archif - gan sicrhau bod yr archif hon yn hygyrch ac yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae ehangu mynediad i’n casgliadau ac annog ymgysylltiad y cyhoedd â’u treftadaeth ddiwylliannol yn flaenoriaethau allweddol i’r Llyfrgell, ac mae’r datblygiad cyffrous hwn yn rhoi ffordd wych arall o gyflawni’r amcanion hynny. Mae Archif Ddarlledu Cymru wedi bod yn fwrlwm o weithgaredd ers sawl blwyddyn gyda’r gwaith digido manwl a helaeth. Gobeithiwn y bydd y cyhoedd yn mwynhau’r adnodd anhygoel hwn ar gyfer adloniant yn ogystal ag at ddibenion ymchwil.”

Mae Archif Ddarlledu Cymru gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu etifeddiaeth darlledu Cymru ac mae’n bartneriaeth rhwng y Llyfrgell, ITV Cymru Wales, BBC Cymru Wales, ac S4C—a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, a’r Llyfrgell ei hun. Ei chenhadaeth yw cadw a rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru gyda phawb.

Mae'r clipiau sydd ar gael gan ITV Cymru Wales ar gael wrth chwilio am Clip Cymru, clicio ar Search, a dewis Arlein i bawb. Neu dilynwch y ddolen hon: https://clip.llyfrgell.cymru/search?published=published_public&sorting=DESC&results=12&viewmode=grid

- Diwedd -

NODIADAU I’R GOLYGYDD

I gael rhagor o wybodaeth a cheisiadau am gyfweliad cysylltwch â: Lydia Jones, Rheolwr Digwyddiadau a Phrosiectau Archif Darlledu Cymru: lydia@lydiajones.cymru / 07980 444660


Ynglŷn â Archif Ddarlledu Cymru:
Bydd prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn rhoi mynediad i bron i 400,000 o raglenni o hanes radio a theledu yng Nghymru. Yn brosiect arloesol a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae’r Archif Ddarlledu yn cael ei chadw a’i rheoli gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â’r darlledwyr BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C.

 

Archif Ddarlledu Cymru ar y Cyfryngau Cymdeithasol:

Ynglŷn â Chanolfan Archif Ddarlledu Cymru yn Aberystwyth:

Gall ymwelwyr â Llyfrgell Genedlaethol Cymru brofi maint ac amrywiaeth yr Archif Ddarlledu yng Nghanolfan Archif Ddarlledu Cymru. Mae arddangosfa ‘Ar yr Awyr’ yn defnyddio’r dechnoleg a’r deunydd diweddaraf a ddewiswyd o’r Archif i adrodd hanes darlledu yng Nghymru. Mae'r lolfeydd sain a fideo yn gweithredu fel silffoedd llyfrau clyweledol ar gyfer pori'n hamddenol; mae bwrdd rhyngweithiol ac ardal sgrin werdd i brofi eich gwybodaeth a'ch sgiliau darlledu; ac ardal astudio lle gallwch chwilio bron i 400,000 o raglenni teledu a radio. Mae gan y Ganolfan hefyd leoedd penodol ar gyfer prosiectau gwirfoddol, cyflwyniadau grŵp a gweithdai i ysgolion.

Corneli Clip: 
Bydd y cyhoedd yn gallu cael mynediad at Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn lleoliadau ychwanegol ledled Cymru.

Mae Corneli Clip yma: 

  • Llyfrgell Caerfyrddin, Caerfyrddin
  • Llyfrgell Llanrwst, Llanrwst
  • Canolfan Ddiwylliant Conwy, Conwy
  • Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Abertawe
  • Llyfrgell Glowyr De Cymru, Abertawe
  • Archifau Gwynedd, Caernarfon
  • Prifysgol Caerdydd
  • Archifau Morgannwg, Caerdydd

I’w agor yn fuan:

  • Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd- Mai 2025
  • Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful, Merthyr Tudful- Mehefin 2025
  • Coleg Cambria Iâl, Wrecsam
  • Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Rhuthun
  • Gwasanaeth Archifau Ynys Môn, Llangefni
  • Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro, Hwlffordd

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru. Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau. Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar: www.llyfrgell.cymru/catalogau-chwilio/catalogau/catalogau-arbenigol

Am Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru  
Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, arwain a chyllido treftadaeth y DU er mwyn creu newid positif a hirdymor ar gyfer pobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. https://www.heritagefund.org.uk/in-your-area/wales

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn mynd at achosion da bob wythnos.  Dilynwch @HeritageFundCYM ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddio #NationalLotteryHeritageFund.