“Mae gwobrau llenyddol yn arwyddocaol nid oherwydd pwy yw’r enillydd ond oherwydd y drafodaeth maen nhw’n ei chreu ynghylch llyfrau.” – Richard Flanagan.
Yn hanesyddol, mae awduron Cymru wedi cael eu tangynrychioli mewn gwobrau llenyddol. Dau eithriad nodedig yw Bernice Rubens yn ennill Gwobr Man Booker ym 1970 am The Elected Member, a'r athronydd Bertrand Russell, a enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth ym 1950 am ei ysgrifennu ar ddyneiddiaeth. Mae gwobrau llenyddol yn bwysig am nifer o resymau, ond maent yn arbennig o bwysig i genhedloedd bach fel Cymru lle mae'r allbwn llenyddol yn cystadlu am sylw mewn tirwedd gyhoeddi sy'n canolbwyntio ar Lundain. Yn fwy na hynny, mae Cymru'n cynhyrchu llenyddiaeth yn Saesneg ac yn y Gymraeg, ac weithiau cymysgedd o'r ddau, ac mae angen gwobr arni sy'n adlewyrchu ei hamlieithrwydd a'i hybridedd. Yn ffodus, mae gennym Lyfr y Flwyddyn.
Wedi'i sefydlu ym 1994, trefnir Llyfr y Flwyddyn Cymru gan Lenyddiaeth Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ei 31ain flwyddyn, mae'r wobr yn cynnwys pedwar categori penodol i adlewyrchu'r ystod o ysgrifennu a gyhoeddwyd yng Nghymru a chan awduron Cymreig: Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, Barddoniaeth, Plant a Phobl Ifanc.
Mae'r beirniad Stevie Marsden yn disgrifio gwobrau llenyddol fel 'ffenomen ddiwylliannol'. Gan ychwanegu ymhellach, mae'n ysgrifennu 'fel arwyddocâd o werth a chwaeth llenyddol, dylanwadwyr y canon llenyddol, a dangosyddion o wahaniaeth, mae gwobrau llenyddol wedi chwarae, ac yn parhau i chwarae, rôl hynod bwysig wrth hyrwyddo a dathlu llenyddiaeth.'
Yn astudiaeth John English o ‘gyfredolrwydd’ gwobrau llenyddol, The Economy of Prestige, mae’n tynnu sylw at y nifer o ffyrdd y mae beirniaid ac awduron yn dangos eu dirmyg at wobrau; er enghraifft, gan honni bod ‘mwy o wobrau nag awduron’ (Gore Vidal) neu ‘prin bod awdur […] nad yw wedi ennill wobr’ (yn ôl bardd o Awstralia Peter Porter). ‘Mae’r system gyfan o roi gwobrau…yn perthyn i gyfnod anfeirniadol,’ meddai Ezra Pound. ‘[Mae’n] weithred gan bobl sydd, ar ôl dysgu’r wyddor, yn gwrthod dysgu sut i sillafu’.
Y gwir amdani yw bod gwobrau llenyddol yn hawdd i’w beirniadu, ond eto maent yn parhau i fod yn ganolog i sicrhau llwyddiant masnachol a diwylliannol llyfr. Maent yn codi proffil yr awdur, yn cynhyrchu gwerthiant llyfrau, ac yn cynnig pwnc trafod ynghylch yr awdur, y stori, a’r wobr ei hun. Yng Nghymru, maent hefyd yn gwasanaethu i ddathlu llenyddiaeth ffyniannus iaith leiafrifol yn ogystal â’r cyhoeddwyr annibynnol ffyniannus sy’n eu sefydlu. O’r herwydd, mae Llyfr y Flwyddyn yn rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru.
Mae gwobr eleni yn tynnu sylw at amrywiaeth o nofelau, casgliadau barddoniaeth, a llyfrau ffeithiol: mae’r categori ffuglen yn cynnig amrwyiaeth o genres, yn cynnwys ffantasi ac antur, Madws gan Sioned Hughes; drama cyfoes, arborfiadol gan awdur newydd Gwenno Gwilym, V + Fo, a stori gariad hanesyddol gan cyn-ennillwr Angharad Price, Nelan a Bo.
Barddoniaeth
Cyfrol barddoniaeth cyntaf Meleri Davies yw Rhuo ei distawrydd hi sy’n archwilio tri cenehdlaeth o fenywod yn yr un teulu mewn ffordd telynegol, dwfn. Cyfrol gyntaf o farddoniaeth, hefyd, yw Pethau sy’n digwydd gan Sion Tomos Owen, ble mae’n drafod tadolaeth, bywyd yn y Rhondda, gwleidyddiaeth, ac iechyd meddwl. Mae O’r Ruddin gan Sioned Erin Hughes wedi cael ei ysgrifennu mewn ffordd unigryw: 365 darn creadigol wedi llwytho i gyfrif Instagram oherwydd adduned Blwyddyn Newydd i ysgrifennu bob dydd. Nid oedd yr awdur yn disgwyl faint o bobl y byddai'r gwaith yn eu cyrraedd, a nawr mae’r 365 darn mewn un cyfrol i gyrraedd mwy o ddarllenwyr.
Ffeithiol greadigol.
Mae’r llyfrau ffeithio greadigol eleni yn cynnig ymagweddau gwahanol tuag at hunangofiant. Mae Oedolyn(ish!) gan gomediwr Melanie Owen yn daith gyffrous, ddoniol drwy ei hugeiniau, a'r holl gamgymeriadau a wnaeth (y gallwn ni i gyd gydymdeimlo â nhw!). Mewn cyferbyniad, mae casgliad o ysgrifau Georgia Ruth, Casglu Llwch, yn gwaith myfyriol, barddonol ar ei bywyd a’r byd natur. Hunangofiant mwy barddonol, arbrofiol yw Camu gan Iola Ynyr hefyd, sydd yn gwibio rhwng atgofion, yn symyd o’i plentyndod i’r dyfodol mewn ffordd llawn dychymyg a chreadigrwydd.
Plant a phobl ifanc.
Cymsygedd o straeon personol, drama hanesyddol, a nofel doniol, anturus yw’r wobr ar gyfer ysgrifennu i blant eleni. Mae Rhedyn, gan awdur torieithiog Myrddin ap Dafydd, yn dilyn merlyn sydd yn gweithio mewn y pyllau glo yn Sir Fflint yn y 19eg ganrif. Blodeugerdd gonest am brofiadau gymuned LHDTCRA+ yng Nghymru yw Cymru. Balch. Ifanc, wedi’i olygu gan Llŷr Titus a Megan Angharad. Yn olaf, nofel llawn hiwmor yw Arwna Swtan a’r sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts – am forforynion, pysgota, Caernarfon, ac anturiaethau môr.
Mae gwobrau llenyddol yn annisgwyl ac yn anrhagweladwy o ran natur, gan ddibynnu ar farn beirniaid, ffasiynau cyffredinol, a’r ysbryd amserol presennol, sef yr hyn sy’n eu gwneud yn adlewyrchiad gwerthfawr o’r hinsawdd ddiwylliannol gyfredol yng Nghymru.
Mae’r holl lyfrau gwych hyn ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol a gellir eu harchebu drwy ein catalog. Cyhoeddir yr enillwyr cyffredinol ar Orffennaf 17eg. Bydd yn ddiddorol gweld – yng ngeiriau Richard Flanagan – pa fath o ‘drafodaeth’ y bydd y llyfr buddugol yn ei chreu!
Llyfryddiaeth
English, James, The Economy of Prestige: Prizes, Awards, and the Circulation of Cultural Values (London: Harvard University Press, 2005)
Marsden, Stevie, “Literary prize culture,” in Oxford Research Encyclopedia of Literature (Oxford: OUP, 2020)
Squires, Claire, “Book Marketing and the Booker Prize,” Judging a Book by Its Cover: Fans, Publishers, Designers and the Marketing of Fiction, eds. Nicole Matthews and Nickianne Moody (London: Ashgate, 2007)
Categori: Erthygl